Hedeby
Roedd Hedeby (Hen Norseg Heiðabýr, o heiðr = rhosdir, a býr = iard neu gwrt); Almaeneg Diweddar: Haithabu), yn dref Lychlynaidd bwysig yn Nenmarc, a oedd yn ei hanterth yn y cyfnod o'r 8g hyd yr 11g. Safai ar ben deheuol gorynys Jutland. Datblygodd Hedeby fel canolfan fasnach ar ei safle ar ben cilfach fordwyol o'r enw Schlei sy'n ei chysylltu a'r Môr Baltig. Yn ogystal gellid trosglwyddo nwyddau i Afon Treene, 15 km i ffwrdd, sy'n llifo i Afon Eider a'i aber ar Fôr y Gogledd; roedd felly'n lle delfrydol ar gyfer trosglwyddo nwyddau a llongau Llychlynaidd dros dir o'r Baltig i Fôr y Gogledd gan osgoi'r fordaith beryglus o gwmpas Jutland. Cipiwyd Hedeby gan Henri y Ffowliwr yn 934. Hedeby oedd dinas Lychlynaidd fwyaf yr oes ac un o'r hynaf yn Nenmarc. Collodd Denmarc diriogaeth Hedeby i Ymerodraeth Austria a Prwsia yn 1864 yn Ail Ryfel Schleswig. Mewn canlyniad i'r newydd ffin hwnnw, saif safle Hedeby yn nhalaith Schleswig-Holstein heddiw, yng ngogledd eithaf Yr Almaen. Hedeby yw'r safle archaeolegol pwysicaf yn Schleswig-Holstein heddiw. Agorwyd amgueddfa yn ymyl y safle yn 1985. |
Portal di Ensiklopedia Dunia