Hector
![]() Cymeriad ym Mytholeg Roeg yw Hectōr (Hen Roeg: Ἕκτωρ Hektor) neu Ector. Mae'n ymddangos yn yr Iliad gan Homeros fel prif arwr Caerdroea yn Rhyfel Caerdroea yn erbyn y Groegiaid. Mae Hector yn fab i Priam, brenin Caerdroea, ac yn briod ag Andromache; mae ganddynt fab bychan, Astyanax. Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yn yr ymladd o gylch Caerdroea yw Achilles, sy'n fab i'r dduwies Thetis. Digia Achilles pan mae arweinydd y Groegiaid, Agamemnon, yn cymeryd y gaethferch Briseis oddi wrtho, ac mae'n gwrthod mynd allan i ymladd. Cymer Patroclus, cyfaill mynwesol Achilles, ei le yn yr ymladd, ond lleddir ef gan Hector]. Dychwel Achilles i'r frwydr, ac mae'n lladd Hector tu allan i furiau Caerdroea, gyda chymorth y dduwies Athena. Mae Achilles yn llusgo ei gorff o amgylch Caerdroea, nes yn y diwedd cytuno i'w ddychwelyd ar gais Priam i'w gladdu'n anrhydeddus. Ym marddoniaeth Beirdd y Tywysogion mae Ector (Hector) yn batrwm o uchelwraeth. Ceir cyfeiriadau ato gan sawl bardd, yn cynnwys Cynddelw Brydydd Mawr a Dafydd Benfras. Cyfeirir ato yn un o Drioedd Ynys Prydain hefyd, fel un o'r 'Tri Dyn a gafas Cedernid Addaf' (Y Tri Dyn a gafodd gadernid [cryfder] Addaf), gyda Ercwlff (Hercules) a Samson. |
Portal di Ensiklopedia Dunia