Harry Evans
Cerddor a chyfansoddwr Cymreig oedd Harry Evans (1 Mai 1873 - 23 Gorffennaf 1914). Ganwyd ef ar Ddydd Calan Mai 1873 yn Russell Street, Dowlais, y pumed plentyn allan o ddeg i Sarah a John Evans (Eos Myrddin)[1]. Roedd gwreiddiau ei rieni yn Sir Gaerfyrddin. Perthynai i deulu cerddorol. Dysgwyd y solffa iddo gan ei chwaer ac erbyn ei fod ef yn saith oed, gwahoddwyd ef i chwarae’r organ yng nghapel yr Annibynwyr. Trefnodd y capel iddo gael gwersi gan athro cerdd, Edward Lawrence, ym Merthyr Tudful[1]. Nid oedd ei dad am iddo weithio yn y gwaith haearn, a threfnodd iddo yn 1887 i fod yn ddisgybl-athro yn Abermorlais. Apwyntiwyd ef yr un pryd yn organydd Capel yr Annibynwyr Bethania, Dowlais. Cyflawnodd y gwaith am 19 mlynedd. Llwyddodd yn ei arholiadau gan dderbyn y radd o FRCO. Gofynnwyd iddo ddod yn gyfeilydd Côr Dowlais yn 1893 a ffurfiodd ef Gôr o’r enw Dowlais Philharmonic gyda 200 o leisiau[2]. Perfformiwyd Samson o waith Handel, ac yn 1897 enillwyd prif wobr o £100 yn Nhonypandy[2]. Yn 1899 ffurfiodd Gôr Meibion o 100 o ddynion er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1900[1]. Byd yr Eisteddfod GenedlaetholRoedd Lerpwl yn ganolfan i’r Cymry oddi ar y ddeunawfed ganrif. Ceid llawer o ddiwylliant eisteddfodol ar hyd oes Fictoria, a daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’r ddinas yn 1884. Yna yn 1900 cafwyd yr ail ymweliad ac enillwyd y Gadair gan weinidog lleol,a ddaeth yn ffrind I’r cerddor y Parchedig J. O. Williams (Pedrog). Trefnwyd cystadleuaeth y Corau Meibion ar bnawn Gwener, a daeth 11 Côr i gystadlu. Enillodd Côr Dowlais a ffurfiwyd yn 1899 y wobr gyntaf er bod Côr Orffiws Manceinion yn un o’r cystadleuwyr. Daeth Harry Evans yn enw pwysig i gerddorion y ddinas a Chymru. Gwahoddwyd ef i arwain Côr Eisteddfod Merthyr yn 1901[3], Côr o 500 o leisiau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1903 enillodd Côr Cymysg Dowlais y wobr gyntaf o £200[3], a bu galw mawr am ei gwasanaeth. Galwad i Lerpwl yn 1903Roedd aelodau o Gôr Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl am barhau yn Gôr a ffurfiwyd Undeb Gorawl Cymry Lerpwl a gwahoddwyd yn 1903 Harry Evans yn arweinydd er ei fod ef yn byw yn Nowlais. Teithiai bob wythnos o Ddowlais i’r rihyrsals yn Lerpwl. Trefnwyd y Cyngerdd cyntaf yn Ebrill 1903. Daeth y teithio yn ormod i’r cerddor a symudodd ef a’i briod Edith Gwendolen Rees i fyw yn 26 Princes Avenue, Lerpwl yn 1906. Roedd ef wedi ei apwyntio yn organydd ac arweinydd Côr Capel yr Annibynwyr Saesneg Great George Street. Canolbwyntiodd ei ddoniau ar yr Undeb Gorawl, a gosododd safonau arbennig gan ganolbwyntio ar waith y meistri. Canodd y Côr Messiah chwe gwaith, Elijah pedair gwaith, Samson ddwywaith a Creation o waith Haydn unwaith. Cyn dyddiau Harry Evans nid oedd gwaith Bach wedi ei berfformio ryw lawer yn y ddinas, ac yn 1907 perfformiodd St Mathew Passion am y tro cyntaf yn y ddinas. Cafwyd hyn eto yn 1912. Cyn diwedd ei gyfnod, perfformiwyd Brahms' Requiem[4]. Swyddi EraillYn 1912, penodwyd ef yn Arweinydd Cor Llanduno ac yn 1913 yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol Bangor a’r un flwyddyn gwnaed ef yn arweinydd lleol Cymdeithas y Philharmonic, Lerpwl. Daeth i arwain symffoni gorawl Vanity of Vanities o waith Syr Granville Bantock[5]. Talodd ef deyrnged arbennig iddo a galwodd Syr Edward Elgar ef 'The Great Conductor'. Ei deulu a’i ddyddiau olafYng ngwanwyn 1914, dirywiodd yn enbyd yn gorfforol a darganfuwyd bod ganddo dyfiant ar yr ymennydd. Nid oedd gobaith o gwbl iddo a bu farw ar 23ain Gorffennaf 1914 yn ei gartref gyda’i briod a’r ddau fab Horace a Hubert. Cafodd y ddau yrfaoedd disglair. Daeth Syr Horace Evans yn feddyg i’r Teulu Brenhinol[6]. Bu Hubert John Evans yn ddiplomat yn Nicaragua a Corea. Daeth miloedd i’w angladd yng Nghapel Cymraeg Grove Street a Mynwent Toxteth Park, Smithdown Road, Lerpwl. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia