Harri Pritchard Jones
Pabydd selog ac awdur o Gymru oedd Harri Pritchard Jones (10 Mawrth 1933 - 10 Mawrth 2015), a alwyd hefyd yn 'Harri Pi-Je' gan ei gyfeillion. Fe'i ganwyd yn Dudley yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr cyn symud i Ynys Môn. Bu'n weithgar iawn gyda phrotestiadau cynharaf Cymdeithas yr Iaith ym Mangor yn y 1960au. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, Iwerddon ac yno y daeth i gysylltiad a'r ffydd Gatholig.[1] Dychwelodd i Gymru i fagu teulu a bu'n seiciatrydd yn Ysbyty Meddwl Hensol ger Caerdydd. Roedd yn briod a Lenna a roedd ganddo ddau fab, y newyddiadurwr Guto Harri, Illtud a merch Nia. Roedd yn byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Ar ddiwedd ei fywyd roedd wedi dioddef o gancr a bu farw yn Hospis Marie Curie, Penarth yn 81 oed.[2][3] Gyrfa feddygolYn ôl ei fab Guto, trodd ei dad at feddygaeth oherwydd dylanwad ei dad yntau sef William Alfred Pritchard Jones, athro o Borthaethwy a orfodwyd i ymuno â byddin Lloegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel aelod o'r uned ambiwlans. Yn dyst i gyflafan y Somme, roedd yn aelod o Royal Army Medical Corps. Er mai ffuglen y gelwir y nofel Darnau’n disgyn i’w lle (neu Disgyn i'w Lle) cred Guto mai sôn am ei dad oedd Harri mewn gwirionedd.[4] Dylanwad mawr arall arno oedd Tynged yr Iaith a'i hawdur Saunders Lewis. LlenorMae'n awdur pymtheg o lyfrau, gyda rhai o'r rheiny wedi eu cyfieithu i saith o ieithoedd.[5] Bu'n Gadeirydd 'Yr Academi Gymreig' fel y'i gelwid; Llenyddiaeth Cymru, bellach. Roedd hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig. Gwnaeth rai addasiadau ar gyfer y teledu gan gynnwys addasiad o Brad gan Saunders Lewis ar gyfer S4C. Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru:
Llyfryddiaeth
Golygydd
![]() Addasiadau ffilm
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia