Haplomitriopsida
Mae Haplomitriopsida yn ddosbarth newydd o lysiau'r afu sy'n cynnwys 3 genera, ac ynddynt ceir 15 rhywogaeth. Yn dilyn datblygiadau gwyddonol diweddar, yn enwedig ym maes dadansoddi mitocondria'r genynnau, gosodwyd y grŵp monoffyletig hwn yn chwaer-grŵp gwaelodol i weddill llysiau'r afu. Mae'r grŵp hwn, felly, yn agoriad llygad i'r modd yr esblygodd llysiau'r afu yn gynnar iawn yn y Permaidd cynnar.[1][2][3][4] DisgrifiadRhisom (neu 'wreiddgyff') tanddaearol yw'r Haplomitrium ac mae ganddo goesyn unionsyth gyda dail arno. Gosodir y dail tennau, crwm oddeutu'r coesynnau, ac mae'n edrych yn debyg i fwsogl meddal. Mae hyn yn wahanol iawn i'r Treubia, sy'n tyfu'n llorweddol, ar eu gorwedd, gyda thalws deiliog. Ceir sawl nodwedd unigryw, sy'n gymorth i wahaniaethu'r Haplomitriopsida oddi wrth aelodau'r ddau grŵp arall o lysiau'r afu, sef y Marchantiopsida a'r Jungermanniopsida. Er enghraifft, nid oes gan y planhigion o fewn y dosbarth Haplomitriopsida wreiddflew; yn hytrach, mae ganddynt o fewn y coesynnau tyfiannol edefyn pwrpasol, gyda mân dyllau ynddo, i gludo dŵr. Mae'r edefyn canolog hwn wedi'i amgylchynu gan silindr o gelloedd sy'n danfon y dŵr a'r maethion sydd ynddo i bob rhan o'r planhigyn. Mae'r edefyn hwn, felly, yn eitha tebyg i'r sylem a'r ffloem a geir mewn planhigyn fasgwlaidd. DosbarthiadMae gan y dosbarth Haplomitriopsida ddwy urdd a theulu biolegol ym mhob urdd. 15 rhywogaeth sydd yn y dosbarth cyfan, wedi'u rhannu i dri genera. Ceir 4ydd genws (y Gessella), ond ar ffurf ffosiliau o'r cyfnos Permaidd yn unig.
RhywogaethauMae'r rhestr a ganlyn yn rhywogaethau o fewn y dosbarth hwn: Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia