Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen
Cronicl o Rws Kyiv sy'n adrodd hanes Slafiaid y Dwyrain o'r Dilyw hyd at y flwyddyn 1110 yw Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen (Hen Slafoneg Dwyreiniol: Повѣсть времѧньныхъ лѣтъ trawslythreniad: Pověstĭ vremęnĭnyxŭ lětŭ). Daw enw'r gwaith o frawddeg agoriadol ei destun: "Dyma hanesion y blynyddoedd o'r blaen parthed tarddiad gwlad Rws, tywysogion cyntaf Kyiv, ac o ba ffynhonnell y dechreuodd gwlad Rws." Fe'i elwir hefyd yn Gronicl Cynradd Rwsia, Cronicl Kyiv, neu Gronicl Nestor. Credir iddo gael ei gyfansoddi ar ei ffurf gynharaf yn ystod y 12g, gan ddechrau gyda fersiwn goll dybiedig a ysgrifennwyd yn Kyiv ym 1113. Priodolid yn draddodiadol i fynach o'r enw Nestor, ond bellach fe'i cydnabyddir yn gywaith neu gasgliad o sawl gwaith gwahanol, yn seiliedig ar ddeunydd o groniclau Bysantaidd, ffynonellau Slafig o'r de a'r gorllewin, dogfennau swyddogol Rws, a'r traddodiad llafar. Er ei fod yn gynharach o ran dyddiad cyfansoddi na'r holl groniclau canoloesol eraill sydd ar glawr heddiw o wledydd Rwsia, Belarws, ac Wcráin, cynhwysir y llawysgrif hynaf ohono yng Nghodecs Laurentius, sy'n dyddio o 1377. Y prif lawysgrifau eraill yw Codecs Ipatiev (oddeutu 1425), Cronicl Radziwiłł a Chronicl Academi Moscfa (y ddau o ddiwedd y 15g). Pery'r hanes yng Nghodecs Ipatiev hyd at 1117, yng Nghronicl Radziwiłł hyd at 1206, ac yng Nghronicl Academi Moscfa hyd at y 15g. Ynghyd â Chronicl Cyntaf Novgorod, mae Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen yn arbennig o bwysig am ei fod yn disgrifio digwyddiadau cynnar yn hanes Slafiaid y Dwyrain. Er enghraifft, mae'n adrodd sut y daeth tri brawd Llychlynnaidd a'u llwyth, y Rws, i greu seiliau gwladwriaeth Rws Kyiv yn 862:
Mae hefyd yn adrodd am ddyfodiad Cristnogaeth i Slafiaid y Dwyrain dan ddylanwad Olga o Kiev, a'r brwydrau cynnar rhwng tywysogion Slafiaid y Dwyrain. Ffynonellau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia