Hacio'r IaithMae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored a drefnir ar yr un ffurf a chynadleddau BarCamp.[1] Mae hyn yn golygu bod y gynhadledd am ddim, ac yn agored i unrhyw un fynychu i siarad am bwnc o'u dewis nhw. Cynhaliwyd y cyntaf yn Aberystwyth ar y 30 Ionawr 2010. Trefnir y gynhadledd ar y cyd gan wirfoddolwyr trwy ddefnydd wiki. Ceir trafodaeth yn y gynhadledd am yr iaith Gymraeg, technoleg a'r rhyngrwyd. Mae'r digwyddiad cychwynnol wedi esgor ar sawl digwyddiad llai o'r enw Hacio'r Iaith Bach a hefyd ar flog amlgyfranog.[2] Gŵyl Dechnoleg Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 cynhaliwyd Gŵyl Dechnoleg Gymraeg y Maes, gyda lleoliad swyddogol ym mhabell Cefnlen tu cefn i'r Babell Lên. Gwahoddwyd criw Hacio'r Iaith i lenwi amserlen wythnos gyfan o weithgareddau.[3] Ymysg y gweithgareddau hyn cynhaliwyd cyflwyniadau amrywiol a gweithdai blogio, sut i greu apps, a sut i olygu'r Wicipedia Cymraeg. Fel rhan o hyn ac mewn ymdrech i hyrwyddo math o gyfryngau sifig i adrodd ar yr Eisteddfod, sefydlwyd gwefan o dan enw Blogwyr Bro a oedd yn agored i unrhyw un gyfrannu tuag ato.[4]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia