Gellir gosod y gwrthdaro yng nghyd-destun y frwydr rhwng yr Israeliaid a'i chymdogion, sef yr hyn a elwir yn wrthdaro Israel-Libanus. Roedd hwnnw, yn ei dro, yn rhan o frwydr ehangach fyth, rhwng yr Israeliaid a'i chymdogion, sef yr hyn a elwir yn wrthdaro Arabaidd-Israelaidd.
Mae Libanus yn gartref i fwy na 350 000 o ffoaduriaid Palesteinaidd, yn cynnwys nifer o ffoaduriaid, nifer ohonynt yn dilyn gorchmynion eu harweinwyr, a rhai a gafodd eu halltudio o Israel yn ystod Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948. Cafodd rhai ffoaduriaid eu gwneud yn ddinasyddion llawn a'u hintegreiddio i gymdeithasau Libanaidd ac Arabaidd, ond gwrthodwyd yr hawl yma i lawer a chawsant eu rhoi mewn gwersylloedd.[1]
Mae preswylwyr y gwersylloedd cyfredol yn ddisgynyddion o'r ffoaduriaid Palesteinaidd cynnar yma. Ar hyn o bryd, nid oes ganddynt hawl i ddychwelyd i Israel neu hawliau sifil sylfaenol yn Libanus.
Lleolir gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd Nahr al-Bared 16 km i ogledd Tripoli ger y ffordd arfordirol ac mae wedi bod o dan archwiliad ers Chwefror, pan fomiwyd dau fws yn Ain Alak, pentref Critsnogol yn bennaf, ger Bikfaya. Beiwyd milwyr Fatah al-Islam. Mae tua 30 000 o Balesteiniaid sydd wedi'u dadleoli yn byw yn y gwersyll, lle nad oes gan y lluoedd milwrol hawl i gael mynediad o dan telerau cytundeb Arabaidd 1969.[2]
Honnir fod gan y grŵp Islamiaidd Fatah al-Islam gysylltiadau ag al-Qaeda. Cred swyddogion llywodraethol Libanus fod ganddi hefyd gysylltiadau â gwasanaethau cudd-wybodaeth Syria a honnir eu bont yn tanseilio ymdrechion y wlad i sefydlu tribiwnlys rhyngwladol i roi llofruddion y cyn-Brif Weinidog Rafik Hariri ar brawf.
[2]
Ymatebion
Libanus Cyhuddodd Fouad Siniora, Prif Weinidog Libanus, Fatah al-Islam o drio ansefydlogi'r wlad.[3] Disgrifiodd Gweinidog Mewndirol Libanus, Hasan al-Sabaa, Fatah al-Islam fel "rhan o'r cyfarpar cudd-wybodaeth-diogelwch Syriaidd". Gwadodd pennaeth cenedlaethol heddlu Libanus, yr Uwchgapten Cadfridog Ashraf Rifi, unrhyw gysylltiad ag al-Qaeda, yn dweud bod Fatah al-Islam o dan reolaeth Damascus. Dywedodd yr arweinydd Cristnogol LibanaiddSamir Geagea bod Fatah al-Islam yn gangen o wasanaethau cudd-wybodaeth Syriaidd ac mae angen i ei weithredoedd terfysgol dod i ben.[4] Dywedodd Nayla Mouawad, Gweinidog Materion Cymdeithasol Libanus, bod gan aelodau'r milisia "deryngarwch Syriaidd ac dim ond o Syria cymerant gorchmynion".[5] Dywedodd Sami Haddad, Gweinidog Economi a Masnach Libanus, i'r BBC bod ei lywodraeth yn drwgdybio Syria o gynllunio'r trais.[6] Hefyd gofynnodd Haddad am arian ac adnoddau i helpu lluoedd Libanus ymladd aelodau'r milisia: "Dwi'n cymryd y cyfle hwn i ofyn ein cyfeillion ar draws y byd – llywodraethau Arabaidd a llywodraethau Gorllewinol cyfeillgar – i gynorthwyo ni yn logistig a gyda chyfarpar milwrol."[5] Datganodd Gabinet Libanus ei "gefnogaeth llawn" am ymdrechion milwrol i ddod â'r ymladd i ben, dywedodd Mohamed Chatah, ymgynghorydd i'r Prif Weinidog Fouad Siniora. "Mae lluoedd diogelwch Libanaidd yn targedu aelodau'r milisia ac nid ydynt yn saethu i mewn i'r gwersyll ffoaduriaid ar siawns," dywedodd Chatah.[5] Yn ôl Khalil Makkawi, cyn-lysgennad Libanus i'r Cenhedloedd Unedig, mae dyrchafiad Fatah al-Islam i'w feio yn rhannol am amodau byw yn y gwersyll.[5] Galwodd Arlywydd Libanus, Emile Lahoud, ar holl bobl Libanus i uno o gwmpas y fyddin.[7] Dywedodd yr arweinydd DrŵsWalid Jumblatt, cefnogwr o glymblaid lywodraethol Libanus, "nid oes cynigion" am ddatrysiad milwrol, "ond rydym ni eisiau i'r llofruddion cael eu rhoi i system gyfiawnder Libanus".[8]
Syria Munudau ar ôl i'r trais dechrau, caeodd Syria ddwy groesfan ar y goror Syriaidd-Libanaidd dros dro oherwydd pryderon diogelwch.[2] Mae arweinwyr Syriaidd yn gwadu cyhuddiadau eu bod yn cyffroi trais yn Libanus.[5] Dywedodd llysgennad Syria i'r Cenhedloedd Unedig, Bashar Jaafari, nid oes gan ei wlad unrhyw gysylltiadau a'r grŵp, ac bod rhai aelodau wedi'u rhoi yn y ddalfa yn Syria am gefnogi al-Qaeda.[6]
Unol Daleithiau America Dywedodd yr Arlywydd George W. Bush bod angen i'r Islamyddion cael eu rhwystro. "Mae angen i eithafwyr sy'n trio dymchwel y ddemocratiaeth ifanc yna cael eu tynnu i mewn," dywedodd Bush.[6] Dywedodd Adran y Wladwriaeth bod dim cysylltiad rhwng y gwrthdaro ag ymdrechion i sefydlu tribiwnlys rhyngwladol i roi'r rhai a ddrwgdybir o fradlofruddiaeth y cyn-Brif Weinidog Rafiq Hariri ar brawf.[5]
Dywedodd llefarydd ar gyfer Fatah al-Islam, Abu Salim, i Al-Jazeera taw dim ond amddiffyn eu hunain oedd y grŵp: "Cawson ein gorfodi ac ein cymell i bod yn y gwrthdaro hwn â'r fyddin Libanaidd."[5] Dywedodd arweinydd Fatah al-Islam, Shaker al-Abssi, i Al-Arabiya ym Mehefin nid oedd gan ei grŵp unrhyw gysylltiadau ag al-Qaeda neu Syria. Dywedodd mae ei grŵp yn bwriadu diwygio gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd i gytuno â chyfraith Islamaidd, neu Sharia.[5] Mewn neges fideo a ryddhawyd gan arweinydd Fatah al-Islam bu'n hepgor ildiad fel dewis yn y sefyllfa. Dywedodd "O eiriolwyr y cynllun Americanaidd, dywedwn i chi bydd Swnnïaid yn flaen y waywffon wrth ymladd yr Iddewon, Americanwyr a'u cynghreiriaid".[8]
Mewn anerchiad i nodi'r seithfed blwyddyn ers enciliad Israel o Libanus, anogodd Sheikh Hassan Nasrallah, arweinydd y grŵp milwriaethus ShiaHizballah, i'r llywodraeth Libanaidd peidio ag ymosod ar radicalwyr Fatah al-Islam yng ngwersyll Nahr al-Bared. Ychwanegodd dylai'r gwrthdaro cael ei ddatrys yn wleidyddol heb unrhyw waethygiad. "Mae gwersyll Nahr al-Bared a sifiliaid Palesteinaidd yn 'llinell goch'," dywedodd Nasrallah, "ni fydden yn derbyn neu ddarparu gorchudd neu bod yn bartneriaid mewn hyn". Condemniodd Nasrallah cyrchoedd yn erbyn y fyddin hefyd a dywedodd: "Gwarcheidwad diogelwch, sefydlogrwydd ac undod cenedlaethol yn y wlad hon yw'r fyddin Libanaidd. Dylen ni i gyd ystyried y fyddin yma fel yr unig sefydliad sydd ar ôl gall cadw diogelwch a sefydlogrwydd yn y wlad hon."[9] Roedd Nasrallah yn amheugar o lwyth llong cymorth milwrol Americanaidd i Libanus a dywedodd ni ddylai'r Libaniaid gadael eu hunain cael eu hymglymu ag al-Qaeda ar ran yr Unol Daleithiau. "Dwi'n synnu ar y pryder yma i gyd dros y fyddin Libanaidd sydd nawr," dywedodd, yn gyfeirio at y gwrthdaro rhwng Israel a Hizballah yn 2006.[10] Gofynnodd ei gynulleidfa "Ydych chi'n fodlon ymladd rhyfeloedd eraill o fewn Libanus?" Mae Hizballah yn gweld grwpiau eithafol Sunni megis al-Qaeda a Fatah al-Islam fel gelynion.[11]
Cyfeiriadau
↑Habib Issa, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cynghrair Arabaidd: Yn 1948 wnaeth Azzam Pasha, y cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol, "sicrhau Arabiaid bydd meddiannaeth Palesteina, yn cynnwys Tel Aviv, mor syml â phromenâd milwrol...Rhoddwyd gyngor brawdol i Arabiaid Palesteina i adael eu tir, tai ac eiddo, ac i aros dros dro yng ngwladwriaethau brawdol cyfagos." (Al-Hoda (papur dyddiol Arabeg), Dinas Efrog Newydd, 8 Mehefin, 1951).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Serail Uchaf o'r Saesneg "Great Serail". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.