Gwiwer
Cnofil prendrig gyda chynffon drwchus iawn yw'r wiwer, sy'n perthyn i deulu'r Sciuridae, sy'n cynnwys aelodau eraill fel y wiwer resog, y wiwer hedegog a'r marmotiaid. Fe'i nodweddir gan gynffon hir wrychog a'i chwimdra wrth ddringo a neidio drwy ganghennau coed. Mae gwiwerod i'w cael ym mhob cyfandir heblaw am Awstralia ac Antarctica; cyflwynwyd nhw i Awstralia dros ganrif a hanner yn ôl.[1] Mae gwiwerod yn byw yn bennaf mewn coedwigoedd, gan fwyta'r cnau maent wedi eu casglu ar gyfer y gaeaf. Yng ngwledydd Prydain, mae niferoedd y wiwer goch (Sciurus vulgaris) wedi gostwng yn sylweddol, ond mae hi'n dal i fyw mewn ambell i le yng Nghymru. Ym mwyafrif Ynysoedd Prydain mae'r wiwer lwyd (Sciurus carolinensis) a gyflwynwyd o Ogledd America wedi gyrru'r wiwer goch i ffwrdd. Amcangyfrifir bod 85% o wiwerod cochion Prydain yn byw yn yr Alban. Yn Lloegr, Ynys Wyth yw cadarnle'r wiwer goch. ![]() Gwyddom fod y wiwer yn byw yn ystod yr oes Ëosen ac mae'n perthyn yn eithaf agos i Ddyfrgi'r mynydd a'r llyg. Tarddiad y gairPerthyna'r gair i'r Lladin viverra (a olygai ‘ffured’) ac fe'i geir yn yr Hen Lydaweg fel guiufher. Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn y Gymraeg yng Nghyfreithiau Hywel Dda: Tair cont cyfreithiawl y sydd: cont gast, a chont cath a chont gwiweir.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia