Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws
![]() Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws[1] hefyd Gweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Belarws (Belarwseg: Белару́ская Саве́цкая Сацыялісты́чная Рэспу́бліка; talfyriad cyffredin Saesneg: BSSR) oedd olynydd Gweriniaeth Sosialaidd Belarws a oedd, ei hun, yn olynydd o fath i Weriniaeth Pobl Belarws. Sefydlwyd Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws ar 1 Ionawr 1919 ac roedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd nes dymchwel hwnnw yn 1991. HanesCyhoeddwyd Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws yn Smolensk ar 1 Ionawr 1919, ond ar ôl gorchfygiad dros Gweriniaeth Pobl Belarws a oedd yn ymgais ar sefydlu gweriniaeth annibynnol ag egwyddorion rhyddfrydiaeth yn debyg i'r hyn a sefydlwyd yn llwyddiannus yr un adeg yn Estonia, Latfia a Lithwania. Trosglwyddwyd prifddinas y weriniaeth Sofietaidd i Minsg ar 9 Ionawr 1919, ac atodwyd rhanbarth Smolensk yn ddiweddarach i Weriniaeth Sofiet Sosialaidd Rwsia (RSSR).[2] Ar 12 Tachwedd 1939, atodwyd rhan o ogledd-ddwyrain Gwlad Pwyl a feddiannwyd gan fyddin Fyddin Goch yr Undeb Sofietaidd ym mis Medi 1939 i SSR Belarwsia (rhan o'r Voivodeniaeth Podlaskie presennol, rhan o Hrodna, oblastau Brest, Minsk a Vitebsk bresennol). Roedd hyn yn sgil Cytundeb Molotov–Ribbentrop rhwng yr Almaen Natsiaidd a'r Undeb Sofietaidd dan Stalin. Dyna ddaeth yn ffiniau Gweriniaeth annibynnol Belarws heddiw. Yn rhyfedd ddigon, roedd gan GSS Belarws (fel Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Wcráin) sedd fel gwlad annibynnol yn y Cenhedloedd Unedig o 1945 ymlaen. Gwnaed hyn er mwyn i Stalin gael rhagor o bleidleisiau i gefnogi'r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer. Ar 27 Gorffennaf 1990, datganodd Goruchaf Sofiet SSR Belarws sofraniaeth SSR Belarws ac ailenwyd yn Weriniaeth Belarws ar 25 Awst 1990 wrth i reolaeth ganolog o'r Undeb Sofietaidd ddadfeilio. Yn 1991 cafwyd cydnabyddiaeth ryngwladol i annibyniaeth Belarws fel gweriniaeth rydd. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia