Grugiar ddu
Mae'r Rugiar ddu (Tetrao tetrix) yn aelod o deulu'r grugieir y Tetraonidae. Mae'r Rugiar ddu yn nythu ar draws gogledd Ewrop ac Asia, fel rheol ar dir agored, yn enwedig rhosdir, ond gyda rhai coed, neu ar ymylon coedwigoedd. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd; mae'n aderyn mawr, rhwng 49 a 55 cm o hyd a'i blu yn ddu i gyd heblaw am ddarn coch uwchben y llygaid a llinell wen ar yr adenydd. Mae'r iâr yn llai, 40 hyd 45 cm o hyd ac yn llwydfrown, ac felly'n anoddach eu gwahaniaethu oddi wrth y Rugiar er enghraifft. Yn y gwanwyn gellir gweld nifer o geiliogod yn eu dangos eu hunain i'r ieir mewn lleoedd traddodiadol, yr hyn a elwir yn lek. Gellir gweld hyn gyda'r wawr ac mae cryn nifer o bobl weithiau dod i weld y ceiliogod yn cerdded o gwmpas ac yn galw. Yng Nghymru mae un safle adnabyddus ar y ffordd gefn rhwng Llangollen a'r Mwynglawdd. Mae niferoedd y Rugiar ddu wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Mae Cymru yn rhywfaint o eithriad i hyn, oherwydd yn dilyn gostyngiad sylweddol iawn hyd ddiwedd y 1990au mae gwaith gan yr RSPB i greu cynefin addas i'r rhywogaeth yma wedi arwain at gynnydd yn ei nifer. Er hynny mae'n parhau yn aderyn prin. Sain
BarddoniaethCynnal Cadoedd:
Yn amlwg, nid pobl ein hoes ni yw'r cyntaf i wirioni ar y ’’lek’’![1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia