Gorsaf reilffordd Llanelli
Mae gorsaf reilffordd Llanelli yn gwasanaethu tref Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, Cymru. Mae wedi ei lleoli rhyw filltir o ganol y dref, ar Reilffordd Gorllewin Cymru a Rheilffordd Calon Cymru. Mae'r orsaf, a mwyafrif y trenau sydd yn galw yno yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru. HanesWrth yr orsaf y bu terfysg Llanelli ar 19 Awst 1911 GwasanaethauMae gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg tua pob awr ym mhob cyfeiriad o hyd y Llinell Gorllewin Cymru, o Manceinion Piccadilly a Caerdydd Canolog trwy Abertawe i Gaerfyrddin, gyda dau estyniad bob awr i Aberdaugleddau. Mae'r chwech gwasanaeth dyddiol Great Western Railway rhwng Caerfyrddin a Llundain Paddington yn galw yma hefyd. Mae Great Western Railway yn rhedeg gwasanaeth Dydd Sadwrn rhwng Llundain a Doc Penfro yn yr haf. Mae yna chwech trên y dydd ym mhob cyfeiriad ar y Llinell Calon Cymru i Amwythig. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia