Gorsaf reilffordd Cyffordd Clapham
![]() Mae gorsaf reilffordd Cyffordd Clapham (Saesneg: Clapham Junction) yn gwasanaethu ardal Battersea ym Mwrdeistref Wandsworth yn Llundain, Prif ddinas Lloegr. HanesAgorwyd Rheilffordd Llundain a Southampton rhwng Nine Elms a Woking ar 21 Mai 1838, ond heb orsaf yn Clapham. Agorwyd ail lein, rhwng Nine Elms a Richmond, ar 27 Gorffennaf 1838. Estynnwyd y lein i Waterloo ym 1848. Adeiladwyd lein i Victoria ym 1860.[1] Agorwyd Cyffordd Clapham ym 1863[2] gan Reilffordd Llundain a de-orllewin (LSWR), Rheilffordd Llundain, Brighton a’r Arfordir Deheuol (LBSCR), Rheilffordd Estyniad Gorllewin Llundain (WLER) i fod yn gysylltiad rhwng y tair rheilffordd. Estynnwyd adeiladau’r orsaf ym 1874 a 1876.[1] Gwasanaethau
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia