Gorsaf reilffordd Amwythig
Mae gorsaf reilffordd Amwythig (Saesneg: Shrewsbury railway station) (a elwid gynt yn Amwythig Cyffredinol) yn orsaf reilffordd sydd yn gwasanaethu Amwythig, tref sirol Swydd Amwythig, Lloegr. Hon yw'r unig orsaf reilffordd ar ôl yn y dref; mae Gorsaf Abaty Amwythig, yn ogystal â gorsafoedd bychain eraill o amgylch y dref, wedi cau beth amser yn ôl. Cynlluniwyd yr orsaf gan T M Penson a chafodd yr orsaf ei hadeiladu ym 1848 ac mae wedi cael ei hymestyn sawl gwaith ers hynny[1]. Cafodd ei dynodi'n adeilad rhestredig gradd II yn 1969. Hi oedd yr unig le lle ceid gwasanaeth trên uniongyrchol o dde-ddwyrain,, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru. Hanes ei rheilffyrddAgorwyd Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer ym mis Hydref, 1848. Doedd ddim cysylltiad â Chroesoswallt oherwydd problemau efo tirfeddianwyr. Yn hwyrach, aeth trenau trwy Amwythig ar eu ffordd rhwng Gorsaf Paddington Llundain a Phenbedw. Erbyn hyn, mae trenau'n mynd trwodd ar eu ffordd rhwng Gorsaf reilffordd Euston a Chaergybi. Ym 1949, agorwyd lein i Wellington, adeiladwyd ar y cyd rhwng Rheilffordd Amwythig a Birmingham a Cwmni Rheilffordd a Chamlas Undeb Amwythig, perchnogion Camlas Ellesmere. Wedyn agorwyd lein gan gwmni Undeb Amwythig rhwng Wellington a Stafford, efo cysylltiad â Llundain, a lein arall gan Reilffordd Amwythig a Birmingham hyd at Wolverhampton. Dechreuwyd eu gwasanaeth o Wolverhampton i Birmingham ar lein Rheilffordd y Great Western ym 1854, daeth Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer a Rheilffordd Amwythig, Croesoswallt a Chaer yn rhan o Reilffordd y Great Western. Agorwyd o Amwythig i Gryw gan Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin ym 1858. Erbyn Hyn mae trenau'n mynd ymlaen at Fanceinion. Adeiladwyd Rheilffordd Amwythig a Henffordd gan gwmni Thomas Brassey hyd at Lwydlo ym 1850, a hyd at Henffordd erbyn 1853. Erbyn hyn, mae trenau'n mynd trwodd i Gaerdydd ac Aberdaugleddau. Adeiladwyd rheilffordd rhwng Amwythig a Hartlebury gan Thomas Brassey, ac agorwyd y lein ar 31 Ionawr 1862. Agorwyd lein rhwng Y Trallwng ac Amwythig ym 1862. Yn hwyrach, adeiladwyd leiniau eraill gan sawl cwmni bach, sydd wedi uno i fod Rheilffyrdd Cambrian, gan gynnwys leiniau trwodd i Aberystwyth a Pwllheli. Agorwyd lein rhwng Craven Arms (ar Reilffordd Amwythig a Henffordd) a Llanelli gan Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin; dyma Reilffordd Calon Cymru heddiw, sydd yn mynd hyd at Amwythig yn y gogledd.[2]
Tydi a roddaistCyfansoddwyd "Tydi a roddaist" gan Arwel Hughes yn ystod 20 munud ar y platfform ym 1938. Mae plac ar blatfform yn nodi'r ffaith.[3] Oriel
Gwasanaethau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia