Goldie Hawn
Mae Goldie Jean Hawn (ganed 21 Tachwedd 1945) yn actores, cyfarwyddwr a chynhyrchydd o'r Unol Daleithiau sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Mae'n fwyaf adnabyddus am actio mewn ffilmiau comedi poblogaidd yn ystod y 1960au, 1970au, 1980au a'r 1990au. Ei Bywyd CynnarFe'i ganwyd yn Washington, D.C., yn ferch i Laura (née Steinhoff), perchennog siop emwaith / ysgol ddawns, ac Edward Rutledge Hawn, cerddor mewn band a chwaraeai mewn digwyddiadau mawrion yn Washington. Cafodd ei henwi ar ôl modryb ei mam. Mae ganddi chwaer, Patricia; a brawd, Edward, a fu farw cyn ei genedigaeth. Ar ochr ei thad, mae Hawn yn ddisgynnydd uniongyrchol i Edward Rutledge, un o arwyddwyr Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Magwyd Hawn ym Mharc Takoma, Maryland. Roedd ei thad yn Bresbyteraidd a'i mam yn Iddewes, yn ferch i fewnfudwyr o Hwngari; magwyd Hawn fel Iddewes. Dechreuodd Hawn wersi ballet a dawnsio tap pan oedd yn dair oed, a dawnsiodd yng nghorws cynhyrchiad Ballet Russe de Monte Carlo o "The Nutcracker" ym 1955. Perfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf fel actores ym 1961, gan chwarae rhan Juliet yng nghyrchiad Gŵyl Shakesperaidd Virginia o Romeo a Juliet. Erbyn 1964, roedd yn rhedeg a chyfarwyddo ysgol ballet, wedi iddi adael Prifysgol Americanaidd, lle'r oedd yn astudio Drama. Ym 1964, gwnaeth Hawn ei pherfformiad dawns proffesiynol cyntaf mewn cynhyrchiad o "Can-Can" ym Mhafiliwn Texas yn Ffair y Byd Efrog Newydd. Dechreuodd weithio fel dawnswraig broffesiynol flwyddyn yn ddiweddarach, ac ymddangosodd fel dawnswraig go-go yn Ninas Efrog Newydd. Ffilmograffiaeth
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia