Gerald Jones
Mae Gerald Jones (ganwyd 21 Awst 1970) yn wleidydd Plaid Lafur Prydeinig. Bu'n Aelod Seneddol (AS) dros Ferthyr Tudful a Rhymni o etholiad mis Mai 2015 hyd 2024. Wedi ad-drefnu ffiniau etholaethau Cymru ar gyfer Etholiad cyffredinol 2024 safodd fel ymgeisydd yn etholaeth newydd Merthyr Tudful ac Aberdâr gan gipio'r sedd i'w blaid. Bywyd personolGanwyd Gerald Jones yn 1970 yn Phillipstown yn Nhredegar yng ngogledd Cwm Rhymni. Cyn dod yn Aelod Seneddol, bu'n gweithio am 15 mlynedd yn y sector drydyddol, yn bennaf yn ymwneud â gwaith cymunedol lle bu'n cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gyda cheisiadau am arian a gofynion hyfforddiant. Daeth ei ddiddordeb yn hyn o ganlyniad i leihad diwydiannol yn yr ardal yn 1980, a streic y gloywr 1984-5, pan roedd Gerald yn 14 mlwydd oed. Mae'n agored hoyw ac yn cyflogi ei bartner, Tyrone Powell fel ei Uwch Gynorthwy-ydd Seneddol. Gyrfa wleidyddolYmunodd a'r Blaid Lafur yn 1988, gan fod yn nifer o swyddi megis Cadeirydd cangen Tredegar ac etholaeth Merthyr Tudfil a Rhymni. Rhwng 2003 a 2015, chwaraeodd ran yn nifer o etholiadol gan fod yn ymgeisydd ac asiant. Etholwyd Gerald fel Cynghorydd Llafur i Gyngor Sir a Bwrdeistref Caerffili yn 1995, yn edrych ar ôl ei ardal o Dredegar. Am 20 mlynedd, cynrychiolodd ei gymuned. Roedd yn Is-Arweinydd y Cyngor rhwng 2012 a 2015 ac hefyd wedi bod yn Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Dai, lle bu'n gyfrifol am sicrhau fod y Cyngor yn cyrraedd y Safonau Tai Cymreig. Bu hefyd yn ymgyrchydd gwrth dlodi a digartrefedd. Mae'n aelod o'r GMB a'r Parti Cydweithredol. Etholwyd Gerald yn Aelod Seneddol Merthyr Tudfil a Rhymni yn 2015. Etholiad 2017Cafodd Gerald Jones ei ail-ethol gyda 66.8% o'r bleidlais gyda mwyafrif o 16,334 o fwyafrif.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia