George Augustus Frederick Paget
Roedd y Cadfridog yr Arglwydd George Augustus Frederick Paget KCB (16 Mawrth 1818 - 30 Mehefin 1880), yn filwr Prydeinig yn ystod Rhyfel y Crimea a chymerodd ran yng nghyrch enwog The Charge of the Light Brigade.[1] CefndirRoedd George yn fab ieuengaf Henry William Paget, Ardalydd 1af Môn gan ei ail wraig y Fonesig Charlotte, merch Charles Cadogan, Iarll 1af Cadogan. Gyrfa filwrol![]() Gwasanaethodd Paget yn Rhyfel y Crimea gan ymladd ym mrwydrau Alma a Balaclava. Mae'n cael ei ddyfynnu yn aml am ei gyfeiriad at sïon parhaus bod ymosodiadau gan Rwsia ar Benrhyn y Crimea ar fin digwydd: Mae pob ffŵl yn y canolfannau allanol, sydd yn ffansïo ei fod wedi clywed rhywbeth, dim ond yn gorfod gwneud ffws, ac yno yr ydym i gyd yn Gadfridogion a phawb ... Wel mae'n debyg bod 500 o alwadau ffug yn well nag un syndod. A hynny toc cyn i'r Rwsiaid ymosod ar eu gwersyll. Mae o hefyd yn enwog am fynd ar gyrch y Light Brigade wrth ysmygu cheroot (math o sigâr fach oedd yn cael ei ffafrio gan filwyr a wasanaethodd yn yr India).[2] Aelod SeneddolAr wahân i'w yrfa filwrol bu Paget yn cynrychioli etholaeth Biwmares fel Aelod Seneddol rhwng 1847 a 1857. Fe'i gwnaed yn Farchog Cadlywydd Urdd y Baddon (KCB) ym 1870. PriodasauPriod cyntaf Paget oedd ei gyfnither Agnes Charlotte, merch Syr Arthur Paget, bu iddynt briodi ym 1854. Bu iddynt ddau fab. Ar ôl ei marwolaeth hi ym mis Mawrth 1858, chwe diwrnod ar ôl genedigaeth eu plentyn ieuengaf. Ei ail briod oedd Louisa Elizabeth, merch Charles Fieschi Heneage, bu iddynt briodi ym 1861. Bu farw Paget ym mis Mehefin 1880 yn 62 mlwydd oed. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia