Gene Wilder
Actor, awdur a digrifwr o'r Unol Daleithiau oedd Jerome Silberman, a adwaenir yn broffesiynol fel Gene Wilder (11 Mehefin 1933 – 29 Awst 2016).[1] Cychwynnodd Wilder ei yrfa ar lwyfan a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar sgrîn yn y gyfres deledu Armstrong Circle Theatre yn 1962. Ei rhan cyntaf ar ffilm oedd portreadu gwystl yn y ffilm Bonnie and Clyde (1967), ei brif rhan cyntaf oedd fel Leopold Bloom yn y ffilm film The Producers (1968) a cafodd enwebiad Gwobrau Academi am yr Actor Cefnogol Gorau. Dyma oedd y cyntaf o sawl cydweithrediad gyda'r ysgrifennwr/cyfarwyddwyr Mel Brooks, yn cynnwys Blazing Saddles (1974) a Young Frankenstein, a cyd-ysgrifennwyd gan Wilder, gan ennill enwebiad Gwobrau'r Academi i'r ddau am Sgript Ffilm Addasiedig Gorau. Roedd Wilder yn adnabyddus am ei bortread o Willy Wonka yn Willy Wonka & the Chocolate Factory (1971) a'i bedwar ffilm gyda Richard Pryor: Silver Streak (1976), Stir Crazy (1980), See No Evil, Hear No Evil (1989), a Another You (1991). Cyfarwyddodd ac ysgrifennodd Wilder sawl ffilm ei hun yn cynnwys The Woman in Red (1984). Ei drydydd gwraig oedd yr actores Gilda Radner, a serennodd gyda hi mewn tri ffilm. O ganlyniad i'w marwolaeth o ganser yr ofari, daeth yn weithgar gyda chodi ymwybyddiaeth o ganser a'i driniaeth gan helpu i ffurfio Canolfan Canfod Canser Ofaraidd Gilda Radner yn Los Angeles a cyd-ffurfio Gilda's Club. Yn dilyn ei gwaith actio mwyaf diweddar yn 2003, trodd Wilder ei sylw at ysgrifennu. Ysgrifennodd gofiant yn 2005, Kiss Me Like a Stranger: My Search for Love and Art; casgliad o storiau, What Is This Thing Called Love? (2010); a'r nofelau My French Whore (2007), The Woman Who Wouldn't (2008) a Something to Remember You By (2013). GwaithFfilm
Teledu
Llwyfan
Rhaglenni dogfen
Cyhoeddiadau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia