Geirfa herodraeth
Dyma eirfa o derminoleg herodraeth.
Diagram o'r termau SaesnegDiagram yn dangos prif nodweddion ac enwau rhannau o'r faner yn y Saesneg. Mae nifer o dermau herodraeth yn y Ffrangeg a defnyddir y termau Ffrangeg, hyd yma fel lingua franca a thermau swyddogol ar gyfer nifer fawr os nad y mwyafrif o nodweddion herodraeth gan gynnwys lliwiau ac enwau ar ffurfiau.
Ermyn neu Erminermyn (lluosog: ermynau) Delwedd wedi ei seilio ar gynffon du a gwyn y carlwm, sef, ffwr anifail a ddefnyddiwyd i gadw'n gynnes, yn gyfforddus ac arddangos cyfoeth a statws yw'r ermyn (hefyd ermin).[1] O'r herwydd daeth yn symbol o statws gyda sawl ffurf dyluniadol ar hyd yr oesoedd. Cysylltir yn bennaf â baner Llydaw ac herodraeth y wlad. Geliwr y ddelwedd unigol yn smotyn neu brycheuyn ermyn a bydd, fel rheol yn ddu ar cefndir gwyn, ond ceir amrywiaethau gan gynnwys y gwrth-ermyn (counter-ermine) lle mae'r ermyn yn fetal (lliw golau) a'r maes mewn lliw (lliw tywyllach).[2] Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia