Gamal Abdel Nasser
Ail arlywydd yr Aifft oedd Gamal Abdel Nasser (hefyd Djamal Abd al-Nasser) (15 Ionawr 1918 – 28 Medi 1970). Ganed Nasser yn Alexandria, ac yn 16 oed roedd eosoes yn arweinydd mudiad myfyrwyr yn gwrthwynebu dylanwad Prydeinig yn yr Aifft. Ymunodd a'r fyddin, ac ymladdodd yn Rhyfel Israel-Arabiaidd 1948, gan gael ei anafu. Roedd yn rhan o'r grŵp swyddogion a orfododd y brenin Faruk I i ymddiswyddo yn 1952, a dilynwyd hyn gan gyhoeddi'r Aifft yn Weriniaeth yn 1953 gyda Ali Mohammed Naguib yn Arlywydd cyntaf. Daeth Nasser yn Weinidog dros Faterion Cartref. Yn 1954, gorfodwyd Neguib i ymddiswyddo, ac yn 1956 daeth Nasser yn Arlywydd, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth yn 1970. Pan ffurfiwyd y Weriniaeth Arabaidd Unedig trwy uno yr Aifft a Syria yn 1958, Nasser oedd Arlywydd y wladwriaeth newydd, a'i hunig arlywydd, gan i Syria ymwahanu eto yn 1961. Ar y llwyfan ryngwladol, roedd yn arweinydd blaenllaw o'r Mudiad Heb Aliniad. Yn ystod cyfnod Nasser fel Arlywydd yr adeiladwyd Argae Aswan ar draws Afon Nîl yn ne yr Aifft. Enwyd y gronfa ddŵr enfawr a ffurfiwyd wedi adeiladu'r argae yn Llyn Nasser ar ei ôl. |
Portal di Ensiklopedia Dunia