Gafsa (talaith)
![]() Talaith yng nghanolbarth Tiwnisia yw talaith Gafsa. Mae'n gorwedd yng ngorllewin canolbarth y wlad, am y ffin ag Algeria i'r dwyrain, gan ffinio ar daleithiau Tozeur, Kebili a Gabès i'r de a Kasserine a Sid Bouzid i'r gogledd yn Nhiwnisia ei hun. Gafsa yw prifddinas a dinas fwyaf y dalaith. Mae talaith Gafsa yn gorwedd rhwng y Tell uchel lled-anial i'r gogledd a'r Sahara Tiwnisaidd i'r de. Mae'r ardal gyfan, yn enwedig y bryniau yn y gorllewin, yn enwog am ei mwyngloddiau ffosffad. Yn ogystal â'i diddordeb i ddaearegwyr, mae gan yr ardal rai o'r safleoedd cynhanesyddol hynaf yng Ngogledd Affrica sy'n dyddio yn ôl tua 150,000 o flynyddoedd. Mae Gafsa yn boeth iawn yn yr haf ond mae'r gaeaf yn gallu bod yn oer. Ychydig iawn o law sy'n disgyn, a hynny yn bennaf yn y gaeaf. Unig atyniad twristaidd Gafsa yw rheilffordd y Lezard Rouge, sy'n rhedeg trwy'r bryniau ffosffad o liwiau coch a melyn trawiadol ger Metlaoui. Adeiladwyd y rheilffordd gan y Ffrancod yn y cyfnod trefedigaethol i wasanaethu'r mwyngloddiau ffosffad. Dinasoedd a threfi
|
Portal di Ensiklopedia Dunia