Ffredrig II, brenin Prwsia
![]() Brenin teyrnas Prwsia o 1740 hyd ei farwolaeth oedd Ffredrig II, a adwaenir hefyd fel Ffredrig Fawr neu ei lysenw der Alte Fritz (24 Ionawr 1712 – 17 Awst 1786). Roedd yn aelod o deulu'r Hohenzollern, yn bedwerydd plentyn i Ffredrig Wiliam I, brenin Prwsia a'i wraig Sophia Dorothea o Hannover. Priododd Elisabeth Christine van Brunswijk-Bevern, ond ni chawsant blant, ac olynwyd ef gan ei nai, Ffredrig Wiliam II. Roedd Ffredrig yn gadfridog disglair, a hefyd yn wladweinydd galluog. Yn Rhyfel Olyniaeth Awstria, cipiodd diriogaeth Silesia, gan gynyddu poblogaeth ei deyrnas o tua 50%. Roedd Maria Theresia, ymerodres Awstria, yn ei gasau oherwydd hyn, a bu hyn yn un o achosion y Rhyfel Saith Mlynedd. Yn wyneb ymosodiadau Awstria a Rwsia, enillodd Ffredrig nifer o fuddugoliaethau syfrdanol, ond gan fod adnoddau Awstria a Rwsia gymaint mwy na'i eiddo ef, roedd ar fin cael ei orchfygu. Achubwyd ef pan fu farw tsarina Rwsia, Elisabeth I yn 1761. Roedd ei holynydd, Pedr III, yn edmygu Ffredrig yn fawr, a gwnaeth gytundeb heddwch ag ef. Wedi i Pedr gael ei lofruddio, olynwyd ef gan Catrin II, oedd hefyd yn gyfeillgar â Ffredrig. Roedd Ffredrig yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac nid yn unig yn noddi cyfansoddwyr ond yn cyfansoddi ei hun. Mae ei gyfansoddiadau yn cynnwys Der Hohenfriedberger Marsch (c.1745). |
Portal di Ensiklopedia Dunia