Ferencvárosi T.C.
Clwb pêl-droed proffesiynol yw Ferencvárosi Torna Club, a adwaenir fel arfer fel Ferencváros (Hwngareg: [ˈfɛrːnt͡svaːroʃ]), sydd wedi'i leoli yn ardal Ferencváros, Budapest, prifddinas Hwngari, sy'n cystadlu yn y Nemzeti Bajnokság I, Uwch Gynghrair Hwngari. Gelwir y clwb yn Fradi gan ei chyefnogwyr. Mae Ferencváros yn adnabyddus yn rhyngwladol am ennill Cwpan Rhyng-Ddinasoedd y Ffeiriau (Fairs Inter-City Cup) pan gynhaliwyd gyntaf yn 1964-65 [1] pan drechon nhw dîm enwog Eidalaidd, Juventus 1–0 yn ninas Turin. Cyrhaeddon nhw'r ffeinal eto yn 1968, ond golli yn erbyn Leeds United A.F.C.. Yn nhymor 1974-75 bu iddynt gyrraedd rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ond colli i Dinamo Kyiv.[2] Ferencváros yw tîm pêl-droed mwyaf adnabyddus, llwyddiannus a phoblogaidd Hwngari.[3] Ond yn ogystal â'r tîm pêl-droed dynion mae Ferencvárosi TC yn glwb aml-gamp gan gynnwys: pêl-droed merched, pêl-law merched, futsal dynion, hoci iâ dynion, pêl-law dynion, timau polo-dŵr, beicio, gymnasteg, athletau, reslo, cyrlio a nofio, rhai ohonynt yn llwyddiannus iawn. CitLliwiau'r clwb yw gwyrdd a gwyn. Arwyddlun y clwb yn eryr gwyrdd, ac felly un arall o lysenwau'r clwb, Yr Eryrod Gwyrdd. HanesSefydlwyd Ferencváros yn 1899 gan Ferenc Springer a grŵp o drigolion lleol yn IXfed ardal Budapest, Ferencváros [4] ("Franzstadt" yn Almaeneg, a anewyd ar ôl yr Ymerawdwr, Ffransis II (Franz II) o Ymerodraeth Lân Rufeinig nes iddo ddiddymu'r Ymerodraeth hwnna a datgan ei hun yn Ffransis I o Ymerodraeth Awstria. Mae Ferencváros wedi chwarae yn Nemzeti Bajnokság I ers ei sefydlu yn 1901, ac eithrio tri thymor rhwng 2006 a 2009. Ferencváros yw'r tîm Hwngari mwyaf llwyddiannus yn y wlad hon ac yn rhyngwladol. Fe enillon nhw Gwpan Ffeiriau Rhyng-Ddinasoedd 1964-65, ac maent wedi ennill 30 o weithiau Nemzeti Bajnokság I a'r Magyar Kupa 23 gwaith. Ers 2011, mae'r clwb wedi gweithredu dan gyfarwyddyd Gábor Kubatov a Pál Orosz Jr, sydd wedi dod â sefydlogrwydd ariannol a gweithredol i'r clwb. Ers 2014, mae'r clwb wedi ennill y Nejzeti Bajnokság unwaith a'r Magyar Kupa deirgwaith. Ar lefel ryngwladol, cawsant eu dileu yn ail rownd gymhwyso tymor Cynghrair Pencampwyr UEFA 2016-17. Enwau'r ClwbEr y defnyddir yr enw "Ferencváros Budapest", yn aml gan sylwebwyr tramor, nid yw'r enw yma byth yn cael ei harddel gan yr Hwngariaid. Yn gyffredin, ceir y talfyriad, FTC, yn amlach na pheidio, fe'i defnyddir fel Ruát 'Fradi' (yn aml iawn yn y ffurf bychanig "Fradika"). Mae yna hefyd yr enw Zöld-Fehérek ("gwyrdd-gwyn"). Gelwir pêl-droedwyr yr FTC hefyd yn Zöld sasok ("Eryryrod gwyrdd"). Newidiwyd yr enw i un i adlewywchu dyhead a byd-olwg Gomiwnyddol am gyfnod byr yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd pan ddaeth Hwngari yn wladwriaeth Gomiwynyddol o dan ddylanwad Stalin a'r Undeb Sofietaidd. Yn ystod ei hanes mae'r clwb wedi gweld sawl newid i'w henw:
Mae prif gemau 'darbi' y clwb yn erbyn Újpest Budapest. Stadiwm y Clwb![]() Mae Fardi yn chwarae yn stadiwm newydd Groupama Aréna a leolir fyw neu lai ar hen safle eu maes blaenorol, Stadion Albert Flórián a newidiwyd i'r enw hwnnw yn 2007 o'r enw flaenorol, Üllői úti Stadion, mewn teyrnged i'r chwaraewr enwog, Albert Flórián (neu, Flórián Albert, o ddilyn yr afer Hwngareg o roi'r cyfenw gyntaf). Sadfai'r stadiwm yme ei hun ar sail maes lle adeilodd y clwb ei stadiwm gyntaf yn 1910. Mae'r Arena yn stadiwm aml-bwrpas ac yn cynnal gemau ryngwladol Hwngari ac yn cynnwys sawl nodwedd arall megis siop ac amgueddfa. 'Brawdoliaeth Gwyrdd'Mae lliw cit gwyrdd anghyffredin y clwb wedi arwain at greu brawdolaieth gyda ffans timau eraill sy'n chwarae mewn gwyrdd gyda'r llysenw, y '"Green Brothers"!. Mae'r rhain yn cynnwys ffans Rapid Wien[5] a Panathinaikos, o Wlad Groeg. Ceir hefyd perthynas gyfeillgar gyda chefnogwyr Śląsk Wrocław, o Wlad Pwyl sydd hefyd yn chwarae mewn gwyrdd. Cafwyd perthynas dda hefyd gyda chefnogwyr Bałtyk Gdynia yn y gorffennol. Mae'n werth nodi bod brawdoliaeth arbennig wedi bod erioed rhwng Gwlad Pwyl a Hwngari.[6] AnrhydeddauDomestig
Ewrop
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia