Fanny Mendelssohn
Pianydd a chyfansoddwraig o'r Almaen oedd Fanny Mendelssohn, wedyn Fanny Mendelssohn Bartholdy, ac ar ôl ei phriodas Fanny Hensel (14 Tachwedd 1805 – 14 Mai 1847). Roedd hi'n chwaer hynaf y cyfansoddwr Felix Mendelssohn. Fel plentyn, dangosodd hi ddawn cerddorol aruthrol a dechreuodd ysgrifennu cerddoriaeth. Fodd bynnag, roedd hi wedi'i gyfyngu gan yr agwedd gyffredinol tuag at fenywod yn ystod y cyfnod. Er gwaetha'r canmoliaeth a gafodd gan gerddorion nodedig, roedd ei thad, y bancwr Abraham Mendelssohn, yn oddefgar, yn hytrach na chefnogol, o'i gweithgareddau fel cyfansoddwr. Yn 1820 ysgrifennodd ei thad ati: "Gall y gerddoriaeth ddod yn broffesiwn iddo [sef ei brawd Felix], tra mai addurn yn unig ydyw i ti …"[1] Cyfansoddodd hi dros 460 darn o gerddoriaeth, y mwyafrif ohonynt yn ganeuon a darnau ar gyfer piano. Ar hyd ei hoes, arhosodd mewn cysylltiad â'i brawd mwyaf amlwg, ac fe wnaethant ymgynghori â'i gilydd ar faterion cerddorol. Cyhoeddwyd rhai o'i chaneuon yn wreiddiol o dan enw ei brawd, ac ymddangosodd nifer fach o dan ei henw ei hun yn ystod ei hoes hefyd. Yn 1829 priododd Fanny yr arlunydd Wilhelm Hensel a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei hunig blentyn, Sebastian Hensel. Bu farw o strôc ym Merlin ym Mai 1847, chwe mis cyn i'w brawd Felix farw o'r un achos. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia