Faber and Faber
Tŷ cyhoeddi annibynnol gyda'i bencadlys yn Llundain yw Faber and Faber, y cyfeirir ati yn aml fel Faber. Mae'n cyhoeddi ffuglen, drama, llyfrau plant, bywgraffiadau, cofiannau, traethodau a gwaith ffeithiol eraill, ond mae'n arbennig o enwog fel cyhoeddwr barddoniaeth. Sefydlwyd y cwmni ym 1925 fel Faber and Gwyer Ltd, a oedd yn gydweithrediad rhwng Geoffrey Faber (1889–1961) a'r Fonesig Gwyer, merch y cyhoeddwr Syr Henry Burdett.[1] Penodwyd y bardd T. S. Eliot i'r bwrdd cyfarwyddwyr, ac roedd ef yn aros yn y sefyllfa honno trwy gydol ei oes. Ym 1929 prynodd Geoffrey Faber gyfran Bonesig Gwyer ac ailenwodd y cwmni yn Faber and Faber, er nad oedd unrhyw un arall o'r enw Faber yn gweithio yno. Ym 1965 sefydlwyd Faber Music fel chwaer cwmni, ac fe'i adnabyddir fel cyhoeddwr o gerddoriaeth glasurol gyfoes. Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia