Evansville, Indiana
Dinas yn nhalaith Indiana, Unol Daleithiau America, sy'n ddinas sirol Vanderburgh County, yw Evansville. Mae gan Evansville boblogaeth o 117,429.[1] ac mae ei harwynebedd yn 105.6 km².[2] Cafodd ei sefydlu (neu ei ymgorffori) yn y flwyddyn 1812. HanesCeir tystiolaeth o'r Paleo-Indiaid yn yr ardal am dros 8,000 o flynyddoedd e.e. Angel Mounds sy'n dyddio i rhwng 900 a'r 17g.[3] Gwyddom fod y llwythi brodorol: Miami, Shawnee, Piankeshaw, Wyandot a phobol y Lenape wedi byw yn yr ardal. Ffrancwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i symud i'r ardal, i Vincennes. ![]() Ar 27 Mawrth 1812, prynnodd Hugh McGary yr Hynaf 441 acer gan ei alw'n "McGary's Landing". Yn 1814, er mwyn dennu llawer mwy o drigolion, ailenwodd y dref yn "Evansville" gan fod y Cadfridog Robert Morgan Evans yn arwr poblogaidd. Ei hen daid oedd John ap Evans (neu "ap Ifans" fel y galwyd ef) a anwyd ym mhlwyf Llanfachreth, Talybont, Merionnydd yn 1683.[4] Cafodd y dref ei hymgorffori yn 1817 ac yna'n sir ar 7 Ionawr 1818.[5][6]
Gefeilldrefi Evansville
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia