Evan Rowland Jones
Roedd yr Uwchgapten Evan Rowland Jones neu'r Major Bach (30 Medi, 1840 – 16 Ionawr, 1920) yn filwr, yn Gonswl Americanaidd ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caerfyrddin.[1] Bywyd personolGaned Evan Jones ym 1840 yn Fferm Penlan, Caron Is Clawdd, Tregaron yn fab i William Jones, amaethwr a Mary (née Rowlands) ei wraig. Honnodd Jones fod teulu ei dad yn perthyn i deulu dylanwadol Johnes Yr Hafod a bod ei fam o'r un tylwyth a'r pregethwr Daniel Rowland. Bu farw tad Evan ym 1847.[2] Cafodd ei addysgu mewn ysgolion lleol yn Llangeitho a Thregaron gyda'r bwriad o fynd ati i ddilyn addysg glasurol. Ym 1851 ailbriododd ei fam a phenderfynodd Evan adael y cartref gan fudo i'r UDA gyda theulu cyfaill ysgol iddo.[3] Priododd Kate Alice ym 1867; roedd hi'n ferch i William Evans, Llanwnda ac ni chawsant blant. Gyrfa milwrolCyrhaeddodd Jones yr UDA yn haf 1856, ac ar ôl gweithio fel labrwr amaethyddol yng nghyffiniau Waukesha, Wisconsin, yn hydref 1856 aeth i weithio fel clerc mewn siop ym Milwaukee. Taflodd ei hun i fywyd gwleidyddol Milwaukee. Roedd yn ffyrnig yn erbyn caethwasiaeth ac yn gefnogwr brwd i Abraham Lincoln a'r Blaid Weriniaethol. Ym 1860 bu'n flaenllaw wrth ffurfio cymdeithas wrth-gaethwasiaeth ymhlith Cymry Milwaukee, gan wasanaethu fel ei hysgrifennydd mygedol. Ar ddechrau Rhyfel Cartref America ymunodd Jones â byddin yr Undeb, er ei fod ychydig fisoedd o dan oed enlistio. Wedi cyfnod o hyfforddiant paratoadol yn Camp Randall, Madison, Winsconsin dechreuodd wasanaethu fel preifat yn y 5th Wisconsin volunteer infantry regiment gan wasanaethu yn bennaf yn nhalaith Virginia. Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin ffederal bu Jones yn brwydro mewn rhai o ymgyrchoedd mwyaf adnabyddus y gwrthdaro, gan gynnwys brwydrau Williamsburg, White Oak Swamp, Malvern Hill, Antietam Creek, a Gettysburg, ac roedd yn dyst i safiad olaf Robert E. Lee a'i ildio i Ulysses S. Grant yn Appomattox, Virginia, ym mis Ebrill 1865. Roedd ei gatrawd hefyd yn Efrog Newydd am gyfnod ym 1863 er mwyn helpu i reoli'r ddinas yn dilyn terfysgoedd y drafft yno. Cafodd ei ddyrchafu'n is-gapten ac yna'n gapten ar ôl iddo ddangos gwroldeb arbennig mewn brwydr ar ddiwedd y gwarchae ar Petersburg ym mis Ebrill 1865. Pan adawodd y fyddin ar ddiwedd y rhyfel cafodd ei ddyrchafu'n Uwchgapten er anrhydedd fel arwydd o ddiolch am ei ddewrder a'i wasanaeth. Ysgrifennodd gofnod o'i brofiadau yn ei lyfr Four Years in the Army of the Potomac: a Soldier's Recollections (1881). Gyrfa wleidyddolAr ôl y rhyfel cafodd Jones gynnig swydd yn adran y wladwriaeth yn Madison, a gynigwyd iddo gan ei gyn-swyddog milwrol, yr Uwchgapten Thomas Scott (Sam) Allen, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Wisconsin rhwng 1866 a 1870. Ym 1869 penodwyd Jones yn Gonswl yr UDA yn Newcastle upon Tyne gan yr Arlywydd Ulysses S. Grant. Roedd yn llwyddiannus iawn yn ei waith consylaidd; yn ystod ei gyfnod yno cynyddodd masnach y rhanbarth gyda'r UDA yn sylweddol. Ym 1883 symudodd o Newcastle i Gaerdydd gan wasanaethu fel Conswl yr UDA yng Nghymru. Gan fod Caerdydd yn un o borthladdoedd ac yn un o lefydd gwneud busnes pwysicaf yn y byd ar y pryd cyfrifwyd ei benodiad yn ddyrchafiad mawr. Tra oedd yng Nghaerdydd cymerodd Jones ddiddordeb egnïol ym mywyd cyhoeddus y ddinas a Chymru'n gyffredinol. Gwasanaethodd fel aelod o Gyngor Coleg Brifysgol De Cymru a Mynwy a oedd newydd ei sefydlu ac fe fu'n aelod brwd o'r Gymdeithas yr Iaith wreiddiol a ffurfiwyd ym 1885 i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion.[4] O 1887-1894 ef oedd llywydd Cymdeithas Cymrodorion Caerdydd a bu hefyd yn llywydd De Cymru o Sefydliad y Newyddiadurwyr. Wedi bod yn gonswl Americanaidd am gyfnod o ddwy flynedd ar hugain (record i ddeiliad y swydd ar y pryd), o dan chwe gweinyddiaeth wahanol, ymadawodd â'r swydd ym 1892. Mae'n aneglur os cafodd ei ddiswyddo am resymau gwleidyddol neu os penderfynodd ymddiswyddo.[5] Ar ôl mudo i'r America cymerodd Jones ddinasyddiaeth Americanaidd ond wedi ymadael â'r llysgenhadaeth penderfynodd beidio â dychwelyd i fyw yno gan ildio ei ddinasyddiaeth Americanaidd ac ailafael yn ei ddinasyddiaeth 'Brydeinig'. Fel dinesydd Prydeinig roedd yn cael sefyll etholiad i Dŷ Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig. Cafodd sawl cynnig gan gymdeithasau Rhyddfrydol yn Lloegr ond roedd yn benderfynol o sefyll mewn etholaeth Gymreig a Chymraeg. Safodd fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Caerfyrddin yn etholiad cyffredinol 1892 gan gael ei ethol. Safodd eto ym 1895; yn yr 1890au roedd tollau a gyflwynwyd gan yr UDA ar fewnforio metelau yn cael effaith andwyol ar waith tun Sir Gaerfyrddin. Er iddo ef yn bersonol fod o blaid masnach rydd ac yn erbyn tollau, roedd cysylltiadau amlwg Jones â'r UDA yn andwyol i'w ymgyrch a chollodd yr etholiad o drwch blewyn i'r ymgeisydd Ceidwadol. MarwolaethBu farw yn ei gartref, 43 The Pryors, Hampstead, Llundain, ar 16 Ionawr, 1920. CyhoeddiadauYm 1883 sefydlodd Jones y cylchgrawn Shipping World, a hyd ei farwolaeth bu'n berchennog ac yn olygydd y cylchgrawn hwnnw a'i flwyddiaduron. Cyhoeddodd hefyd y llyfrau:
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia