Erwin Schrödinger
Ffisegydd o Awstria, a ddaeth yn ddiweddarach yn ddinesydd o Iwerddon, oedd Erwin Rudolf Josef Alexander Schrödinger (12 Awst 1887 – 4 Ionawr 1961). Daeth yn enwog oherwydd ei gyfraniadau i fecaneg cwantwm, yn enwedig Hafaliad Schrödinger. Dyfarwnwyd Gwobr Ffiseg Nobel iddo yn 1933. Ganed Schrödinger yn Fienna, ac addysgwyd ef yno dan Franz S. Exner a Friedrich Hasenöhrl. Daeth yn gynorthwydd i Exner yn 1911. Yn 1920, priododd Annemarie Bertel a daeth yn gynorthwydd i Max Wien ym Mhrifysgol Jena, cyn dod yn Athro ychwanegol (Ausserordentlicher Professor) yn Stuttgart. Yn 1921, daeth yn Athro llawn yn Breslau (Wrocław, Gwlad Pwyl, yn awr). Yn 1922 aeth i Brifysgol Zürich. Yn Ionawr 1926, cyhoeddodd ei bapur Quantisierung als Eigenwertproblem, a ystyrir yn un o gyfraniadau pwysicaf yr 20g i'r pwnc. Yn 1927, olynodd Max Planck ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ond yn 1933 gadawodd yr Almaen i osgoi'r Natsïaid. Yn 1936 cafodd swydd ym Mhrifysgol Graz yn Awstria. Wedi i'r Almaen feddiannu Awstria yn 1938, collodd ei swydd, a bu'n gweithio mewn nifer o wledydd cyn cael swydd yn Nulyn, lle bu am 17 mlynedd a dod yn ddinesydd Gwyddelig. Dychwelodd i Fienna yn 1956, gan gael cadair bersonol ym Mhrifysgol Fienna. |
Portal di Ensiklopedia Dunia