Eratosthenes
Ysgolhaig ac athronydd Groegaidd amryddawn (fl. 275 CC - 195 CC efallai), yn enedigol o ddinas Cyrene, ar arfordir Gwlff Sidra (Syrtes) yn Libya, Gogledd Affrica. BywydDechreuodd ei addysg yn ei ddinas enedigol cyn symud i Athen i astudio athroniaeth. Rhoddodd ei ddarlith gyntaf ar athroniaeth yno. Yn 247 CC fe'i gwahoddwyd i Alecsandria gan Ptolemi III Euergetes i gymryd drosodd fel llyfrgellydd yn lle Callimachus yn llyfrgell enwog y ddinas; yr ail yn unig i ddal y swydd honno. Mesurodd gylchedd y Ddaear a gradd yr ecliptig. Dywedir iddo farw o wrthod cymryd bwyd yn 195 CC, gan fod ei lygaid yn dechrau methu ac nid oedd yn medru parhau â'i waith. GwaithRoedd yn feistr ar bron pob cangen o wyddoniaeth a dysg yr Hen Fyd, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth, geometreg, seryddiaeth, athroniaeth, gramadeg a barddoniaeth. Oherwydd y doniau hyn enillodd iddo ei hun y teitl Pentathlos "Meistr ar y Pum Camp" (anrhydedd a roddid fel rheol i athletwyr penigamp). Dywedir hefyd ei fod y cyntaf i ymarddel yr enw Philologos "Cyfaill Dysg (neu Wybodaeth)". Gellid dweud mai Eratosthenes yw sefydlwr daearyddiaeth wyddonol (mawr oedd dyled Strabo, yr enwocaf o ddaearyddwyr y byd clasurol, iddo). Ei gyfrolau pwysicaf yw:
Drylliau yn unig o hynny oll sydd wedi goroesi, y rhan fwyaf mewn dyfyniadau a chyfeiriadau gan ysgrifenwyr clasurol diweddarach. Llyfryddiaeth
Gweler hefyd
|
Portal di Ensiklopedia Dunia