Enfys![]() ![]() 1. Diferyn siap sffêr 2. Y mannau ble ceir adlewyrchiad mewnol y golau 3. Enfys sengl 4. Y mannau ble ceir plygiant golau 5. Enfys ddwbwl 6. Paladr o olau gwyn yn dod i fewn 7. Llwybr y golau sy'n creu'r enfys syml 8. Llwybr y golau sy'n creu'r ail enfys 9. Y gwyliwr 10. Y mannau ble ffurfir yr enfys syml 11. Y mannau ble ffurfir yr ail enfys 12. Y rhan o'r atmosffer ble y ceir llawer o ddiferion Rhyfeddod neu ffenomenon optegol a meteorolegol yw enfys (Hen Lydaweg: envez; 'cylch neu 'fodrwy'), pan fydd sbectrwm o olau yn ymddangos yn yr awyr pan fo'r haul yn disgleirio ar ddiferion o leithder yn atmosffer y ddaear. Mae'n ymddangos ar ffurf bwa amryliw, gyda choch ar ran allanol y bwa, a dulas ar y rhan fewnol. Caiff ei greu pan fo golau o fewn diferion o ddŵr yn cael ei adlewyrchu, ei blygu (neu ei wrthdori) a'i wasgaru. Mae enfys yn ymestyn dros sbectrwm di-dor o liwiau; mae'r bandiau a welir yn ganlyniad i olwg lliw pobol. Disgrifir y gyfres o liwiau'n gyffredinol fel coch, oren, melyn, gwyrdd, glas, indigo a fioled. Gellir eu dwyn i'r cof wrth adrodd y cofair: Caradog o'r mynydd gafodd gig i'w fwyta".[1] neu Collodd Owain Morgan Gar Glas Pan Faglodd (coch oren melyn gwyrdd glas porffor fioled)[2] Gall yr enfys fod ar ffurf cylch cyfan ond dim ond rhan ohoni mae'r gwyliwr cyffredin, fel arfer, yn gweld ohoni - bwa'n unig ac nid cylch.[3] Gall enfys gael ei achosi gan ffurfiau eraill o ddŵr heblaw glaw, megis niwl, olew a gwlith. Nid yw enfys wedi'i leoli mewn un lle, ond mae'n ymddangos mewn rhith optegol i'r gwyliwr ei fod. Ongl y golau, wrth iddo blygu o fewn y diferion sy'n achosi hyn, mewn perthynas i ongl y gwyliwr a tharddiad y golau (yr haul yn yr achos hwn). Nid yw'r enfys felly'n wrthrych sy'n bodoli mewn un man, ac ni fedrir ei gyffwrdd. Dim ond ar ongl o 42 gradd o'r cyfeiriad dirgroes y gellir ei weld. Mathau o enfys
Dyma adroddiad Ifor Williams a dynnodd y llun hwn a'i gamera ar 1af Rhagfyr 2009:
Dyma gofnododd Edward Llwyd yn ei Parochialia yn 1699:
Fe'i gelwir hefyd yn Fwa Brocken neu Rhith Fynydd: delwedd o fwa, gyda chysgod chwyddedig y sylwedydd ynddo, wedi ei fwrw ar y cymylau gyferbyn a chyfeiriad yr haul. Cofnodwyd llewyrch y bugail fel enw gan Llinos Jones-Williams, ond heb darddiad[2]
Enwau amgen ar Rhith Brocken:
Cylch haul 22°, a ffurfiwyd gan adlewyrchiad solar ar grisialau rhew yn y cymylau Cirrostratus sy’n ymledu o’r de orllewin. Mae’r cymylau Cs yn rhaflaenu ffrynt cynnes.[7] Cylch 28 Rhagfyr 2009:
GeirdarddiadMae'n debyg mai hen air Celtaidd yw enfys; gwyddys fod y gair Llydaweg envez ar gael cyn iddo gael ei gofnodi yn y Gymraeg am y tro cyntaf, sef yn 1346 (LlA 13): na bu dafyn glaw. ac na bu envys ac yna yn y 14g: (DB 101): A’r envys (arcus) yn yr awyr, petwar lliwawc vyd.[9] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia