Eluned Morgan (Y Wladfa)
Roedd Eluned Morgan (20 Mawrth 1870 – 29 Rhagfyr 1938) yn un o lenorion amlycaf Y Wladfa ym Mhatagonia. BywgraffiadGaned hi ar fwrdd y llong Myfanwy ym Mae Biscay. Ei thad oedd Lewis Jones, ond bedyddiwyd hi â'r cyfenw "Morgan". Magwyd hi yn y Wladfa a'i haddysgu yn yr ysgol Gymraeg yno. Teithiodd i Gymru yn 1885 a threuliodd ddwy flynedd yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Wedi dychwelyd i'r Wladfa, bu'n cadw ysgol breswyl i enethod yn Nhrelew am ddwy flynedd. Yn 1885 danfonwyd hi gan ei thâd i dderbyn addysg uwchradd yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Yn wahanol i'r Wladfa lle roedd addysg yn y Gymraeg, roedd addysg yng Nghymru yn gyfangwbl Saesneg a Seisnig. Bu'n rhaid i'w ffrind, Winnie Ellis, chwaer Aelod Seneddol Meirionnydd, T.E. Ellis, gyfieithu o'r Saesneg iddi yn yr ysgol. Cofiai Winnie hi yn 'cerdded fel tywysog' ac yn drawiadol gyda'i chroen a llygaid tywyll. Yn fuan wedi cychwyn yn yr ysgol fe arweiniodd Eluned orymdaith o'r disgyblion Cymraeg allan o'r adeilad mewn protest yn erbyn polisi ac agwedd Seisnig a gwrth-Gymraeg yr ysgol. Crewyd trafferth mawr a bu'n rhaid danfon am Michael D. Jones, cyfaith i dad Eluned, ddod i'r ysgol o'r Bala i ddatrys a chyfaddawdu. Daeth yn olygydd y papur newydd Y Drafod yn 1893, ac wedi ymweliad arall â Chymru yn 1896, bu'n cyhoeddi ysgrifau yn Cymru O. M. Edwards. Sefydlodd ysgol ganolraddol Gymraeg yn y Gaiman, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio yn Llyfrgell Caerdydd ac yn darlithio ar y Wladfa. Dychwelodd i'r Wladfa am y tro olaf yn 1918, lle bu farw yn 1938. Llyfrau
Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia