Ellis Edwards
Roedd Ellis Edwards (9 Mehefin, 1844 - 2 Chwefror, 1915) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a wasanaethodd fel athro, dirprwy brifathro ac wedyn yn brifathro Coleg y Bala.[1] CefndirGanwyd Edwards yn yr Wyddgrug yn blentyn i'r Parch Roger Edwards, gweinidog ac argraffydd ac Eleanor (née Williams) ei wraig. Cafodd ei addysgu mewn ysgol yng Nghaer am 3 mlynedd, rhwng 12 a 15 oed, bu wedyn yn ddisgybl athro (athro dan hyfforddiant) yn yr ysgol am ddwy flynedd, wedi hynny bu yn athro mewn ysgol yn Scarborough. Wedi gwario blwyddyn fel athro bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Bala ac wedyn ym Mhrifysgol Caeredin lle graddiodd MA dosbarth cyntaf ym 1870.[2] Derbyniodd gradd DD er anrhydedd gan Brifysgol Caeredin ym 1901.[3] Roedd yn gyfoed ac yn gyfaill oes i'r nofelydd Daniel Owen. Yn ystod ei blentyndod cafodd Edwards afiechyd a amharodd ar ei glyw a bu'n drwm ei glyw am weddill ei oes gan droi yn hollol fyddar erbyn diwedd ei oes. GyrfaWedi graddio cafodd Edwards ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bu'n gwasanaethu fel gweinidog ar gapel Cymraeg Croesoswallt am gyfnod o flwyddyn a hanner. Rhwng 1872 a 1874. Ar farwolaeth y Parch Dr John Parry, penodwyd Edwards yn athro yng Ngholeg y Bala fel olynydd iddo.[4] Ar adeg ei apwyntiad roedd Coleg y Bala yn cynnig addysg gyffredinol yn ogystal â gweithredu fel athrofa baratoadol i ymgeiswyr am y weinidogaeth. Bu Edwards yn gyfrifol am rhai o'r pynciau cyffredinol megis y celfyddydau, Llenyddiaeth Saesneg, Lladin a rhifyddeg. Fe'i penodwyd yn ddirprwy brifathro'r coleg ym 1889 a phrifathro ym 1908. Roedd Edwards yn gerddor brwdfrydig, yn arweinydd cymanfaoedd, yn feirniad cystadlaethau cerddorol mewn eisteddfodau [5] ac yn gyfansoddwr emyn donau.[1] Bu Edwards, fel nifer o arweinwyr anghydffurfiol ei ddydd, yn gefnogwr brwd o'r Blaid Ryddfrydol ac yn un o sylfaenwyr mudiad cenedlaetholgar y blaid, Cymru Fydd. Yn ôl William George (brawd David Lloyd George) Edwards oedd yn gyfrifol am fathu enw'r mudiad.[6] MarwolaethBu farw yn annedd y prifathro yng Ngholeg y Bala yn 70 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil.[7] Ni fu'n briod. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia