Elisabeth o Ruddlan
Roedd Elisabeth o Ruddlan (7 Awst 1282 – 5 Mai 1316) yn wythfed plentyn, a'r ieunegaf, i Frenin Edward I a Brenhines Eleanor o Castile. O'i brodyr a'i chwiorydd i gyd, hi oedd yr agosaf i'w brawd Brenin Edward II, gan mai dim ond dwy flynedd oedd rhyngddynt o ran oed. Priodas gyntafPriododd Elisabeth, John o Ipswich ar 8 Ionawr 1297. Yn y briodas roedd chwaer Elisbaeth, Margaret, ei thad, Edward I o Loegr, ei brawd Edward, a Humphrey de Bohun. Ar ôl y briodas roedd disgwyl i Elisabeth fynd i'r Iseldiroedd â'i gŵr, ond nid oedd yn dymuno gwneud hynny, gan adael i'w gŵr fynd ei hun. Yn ôl y sôn, gwylltiodd y brenin a thaflu coron ei ferch i'r tân.[1] Ar ôl amser penderfynwyd y dylai Elisabeth ddilyn ei gŵr a theithiodd ei thad gyda hi, drwy Dde'r Iseldiroedd rhwng, Antwerp, Mechelen, Leuven a Brussels, cyn gorffen yn Ghent. Ar 10 Tachwedd 1299 bu farw John o ddysentri, er fod si ei fod wedi'i lofruddio. Nid oedd ganddynt blant. Ail briodasAr 14 Tachwedd 1302, priododd Elisabeth Humphrey de Bohun, yn Abaty Westminster. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia