Angelica Borgese, Marcel Deschamps, Dr. Dominica Borgese
Gwobr/au
Aelod yr Urdd Canada, Medal Caird, doctor honoris causa Prifysgol Concordia
Awdures o Ganada a'r Almaen oedd Elisabeth Mann-Borgese (24 Ebrill1918 - 8 Chwefror2002) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ecolegydd ac academydd ond yn bennaf fel arbenigwr rhyngwladol mewn cyfraith morol. Roedd yn un o gyd-sefydlwyr "Clwb Rhufain" (Club of Rome) a gweithiai ym Mhrifysgol Dalhousie yn Halifax, Canada. Cred Clwb Rhufain oedd fod dirywiad amgylcheddol, tlodi, afiechyd endemig, malltod trefol, trosedd ayb i gyd yn yr un pair, yn gysylltieedig â'i gilydd yn hytrach nag yn endidau ar wahân.[1][2]
Yn 52 oed, roedd Mann Borgese wedi sefydlu ei hun fel arbenigwr rhyngwladol ar y moroedd. Hi oedd sefydlydd a threfnydd y gynhadledd gyntaf ar gyfraith y môr ym Malta ym 1970, gyda'r teitl "Pacem in Maribus" ("Heddwch ar y Moroedd"). Rhwng 1973 a 1982, ffurfiodd Mann Borgese ran o'r grŵp arbenigol o ddirprwyaeth Awstria yn ystod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr.[9][10]
Yn 59 oed, yn 1977, daeth Mann Borgese yn Athro Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Dalhousie yn Halifax, Nova Scotia, Canada, trwy wahoddiad. Derbyniodd radd Doethur anrhydeddus mewn Cyfreithiau, o Dalhousie yn 1998, a hithau'n 80 oed, a daliodd ati i gyflawni ei dyletswyddau addysgu hyd nes ei bod yn 81. Bu farw Mann Borgese yn annisgwyl yn 83 oed yn ystod gwyliau sgïo yn St. Moritz, y Swistir.[1][2][11]
Cyhoeddiadau
Gwaith ymchwil a ffeithiol
The Oceanic Circle: Governing the Seas as a Global Resource (1998), United Nations University Press: Efrog Newydd, ISBN92-808-1013-8, LCCN 98-40090
SEAFARM: The story of Aquaculture (1980) Harry N Abrams, NY
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
↑Dalhousie University Obituaries, Elisabeth Mann Borgese In Memoriam, Dalhousie News Volume 32, Number 7; Mawrth 13, 2002
↑Visionäre Frauen im Einsatz für den Umweltschutz - 1899 bis heute. Katalog zur Ausstellung. Kuratierung: Sabine Diemer und Dr. Anna-Katharina Wöbse, Herausgeber: Bundesministerium für Umwelt, Naturschutz und Reaktorsicherheit (BMU), Deutsche Bundesstiftung Umwelt (DBU), 2013, p. 96, "Archived copy"(PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol(PDF) ar 2013-05-20. Cyrchwyd 2013-05-17. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
↑Elisabeth Mann Borgese - die jüngste Tochter von Thomas Mann. Ein Hörporträt von Wolf Gaudlitz. Unter Mitwirkung von Elisabeth Mann Borgese et al. Freiburg/ Breisgau: Audiobuch, 2010, 4 CD (245 munud). ISBN978-3-89964-387-9.
↑Alma mater: https://www.fgz.ch/elisabeth_mann.html?&L=en. dyddiad cyrchiad: 20 Tachwedd 2015. dyfyniad: She [...] followed her parents into exile in Switzerland in 1933 where she attended Freies Gymnasium Zürich, gaining her Matura diploma in 1935..