Elektra
Opera un-act gan Richard Strauss yw Elektra. Ysgrifennwyd y libreto Almaeneg gan Hugo von Hofmannsthal, a wnaeth addasu o'i ddrama Elektra (1903).[1] Roedd yr opera yn un o nifer o brosiectau rhwng Strauss a Hofmannsthal. Cafodd ei berfformio am y tro gyntaf yn Königliches Opernhaus yn Dresden ar 25 Ionawr 1909. Cafodd ei gyflwyno i'w ffrindiau Natalie a Willy Levin.[2] HanesMae'r opera wedi'i seilio ar hen chwedlau Groeg, yn benodol trychineb Electra. Mae'r opera yn fodernaidd yn ei steil ac yn defnyddio elfennau mynegiannaeth. Mae addasiad Hofmannsthal a Struass o'r stori yn ffocysu ar Elektra, gan ddatblygu ei chymeriad gan fynegi ei hemosiynau a'i seicoleg pan mae'n cwrdd â chymeriadau eraill, gan amlaf un ar y tro. (Mae trefn y sgyriau yn dilyn drama Sophocles). Mae'r cymeriadau eraill yn cymmwys Klytaemnestra, ei mam ac un o lofruddwyr ei thad Agamemnon; ei chwaer, Chrysothemis; ei brawd, Orestes; a chariad Klytaemnestra, Aegisthus. Mae rhai agweddau o'r chwedl yn cael eu lleihau i'r cefndir fel y gallai cymeriad Elektra a'i obsesiwn dod i'r blaen. Mae agweddau eraill o'r stori hynafol yn cael eu heithrio'n gyfan gwbl, yn enwedig abrthiad Agamenon o'i ferch gyda Klytaemnestra, cymhelliant i Elektra i ladd Agamemnon.[3] Fe wnaeth y newidiadau hyn cryfhau'r ffocws ar chwant Elektra i ddial. Mae'r opera yn ailadroddiad o'r chwedl sy'n fodern ac yn fynegiannol. I gymarhu â stori Sophocles, mae'r opera yn cyfleu arswyd llym, bwystfilaidd, creulon a threisgar.[4] Mae rhai ysgolorion yn canfod awgrymiadau o losgach ym mherthnasau camweithredol teulu Elektra.[5] Mae'r cerddolegwr Ståle Wikshåland wedi dadansoddi defnydd amser ac eiddo tymhorol yn dramaturgy Elektra.[6] Elektra yw'r ail o operâu modernaidd Strauss (y llall yw Salome),[7] wedi'i chymeriadu gan adrannau cacoffonig a leitmotifau digywair.[8] Mae'r gweithiau hyn yn gwrthgyferbynnu'n gryf gyda'i operâu gynharach a'i gyfnod hwyrach. Roedd derbyniad Elektra yng ngwledydd iaith-Almaeneg wedi'i rhannu ar draws y llinellau traddodiadol a modernaidd.[9] Hanes perfformioElektra yw un o'r operâu sy'n cael eu perfformio amlaf o'r rhai sy'n seiliedig ar chwedlau Groeg, gyda pherfformiad yn para tua 100 munud, hyd tebyg i Salome. Cafwyd perfformiad cyntaf Elektra yn y DU yn Nhŷ Opera Brehninol yn 1910 gyda Edyth Walker yn chwarae'r rôl teitl a Thomas Beecham yn arwain perfformiad opera cyntaf Strauss erioed yn y DU.[10] Perfformiwyd yr opera gyntaf yn yr UDA yn yr Almaeneg gwreiddiol gan Gwmni Philadelphia Grand Opera yn Academi Cerddoriaeth ar 29 Hydref 1931, gyda Anne Roselle yn y rôl teitl, Charlotte Boerner yn chwarae Chrysothemis, Margarete Matzenauer fel Klytaemnestra, Nelson Eddy yn chwarae Orest, a Fritz Reiner yn arwain. Cafwyd perfformiad premiere yn yr Opera Metropolitan yn Efrog Newydd ar 3 Rhagfyr 1932, gyda Gertrude Kappel yn chwarae Elektra ac Artur Bodanzky yn arwain.[11] Cymeriadau
CrynodebCyn i'r opera ddechrau, mae Agamemnon wedi aberthu ei ferch Iphigenia ar ôl iddi addo i briodi, ond yn mynd yn lle i ryfel yn erbyn Troy. Mae mam Iphigenia, Klytaemnestra wedi dod i gasáu ei ŵr, a gyda chymorth ei chariad Aegisth, mae'n llofruddio ei ŵr ac yn ofni y byddai ei throsedd yn cael dial gan aelodau ei theulu, Elektra, Chrysothemis a'u brawd Orest sydd wedi ei alltudio. Mae Elektra wedi llwyddo i anfon ei brawd i ffwrdd gan aros yn driw i gof ei thad, gan ddioddef dirmyg ei mam a'r holl lys. Yn iard Palas Mycenae. Mae'r gweision yn synnu os y byddai Elektra yn galaru dros ei thad, fel mae'n gwneud bob dydd. Mae Elektra yn ymddangos ac yn cloi ei hunain i ffwrdd mewn unigedd yn syth. Mae'r gweision yn ei mocio ac yn ei beirniadu, heblaw am un, sy'n ei hamddiffyn. Ar ben ei hunain, mae Elektra yn cofio sut cafodd Agamnemnon ei lofruddio ar ôl iddo ddychwelyd o Troy, wedi'i ladd gyda bwyell gan Klytamnestra a'i chariad, Aegisth. Wedi'i ddifrofi'n llwyr gan ei galar, mae Elektra yn obsesu dro ddial mae'n bwriadu gwneud gyda'i chwaer Chrysothemis a'i brawd Orest. Fe wnaeth Orest gael ei fagu yn bell i ffwrdd o'r palas, ac mae Elektra yn aros iddo ddychwelyd. Mae Chrysothemis yn torri ar draws Elektra, sydd yn myfyrio, ac yn ei rhybyddio mae Klytamnestra ac Aegisth wedi dewis i'w chloi mewn tŵr. Mae Chrysothemis yn gofyn i'w chwaer i ddiarddel ei dial ac yn byw yn hapus unwaith eto. Mae Elektra yn gwrthod y syniad gyda diystyrwch. Mae Klytamnestra yn cyrraedd gyda'i chymdogion. Mae hi wedi bod yn paratoi aberthiadau, gan obeithio i heddychu'r duwiau gan ei bod yn dioddef hunllefau. Mae eisiau siarad ag Elektra, ac mae Klytamnestra yn anfon ei chymdogion i ffwrdd ac yn siarad gyda Elektra ar ben ei hunain. Mae Klytamnestra yn dofyn i'w merch pa rwymedi y gallai helpu iddi gysgu, ac mae Elektra yn datelu y gallai aberthiad yn gallu ei rhyddhau o'i hunllefau. Ond pan ofynnai'r frenhines pwy a olygai i gael eu lladd, mae Elektra yn ateb y byddai Klytamnestra ei hunain angen marw. Mae Elektra yn parhau i ddisgrifio gyda chyffroi cynddeririog sut y bydd ei mam yn ildio i Orest. Mae panig llwyr yn y llys: mae dau berson anhysbys wedi cyrraedd a gofyn i gael eu gweld. Mae'r frenhines yn derbyn neges ac yn gadael yn syth heb ddweud gair wrth Elektra. Mae Chrysothemis yn dod â newyddion ofnadwy i Elektra: bu farw Orest. Yn gyntaf, mae Elektra yn fyddar i beth sydd wedi ei ddweud. Wedyn, ar ôl iddi golli ffydd, mae'n penderfynu bod angen iddyn dial ar eu mam heb aros. Ond mae Chrysothemis yn gwrthod gwneud ac yn ffoi. Mae Elektra yn ei melltithio, gan sylweddoli y byddai rhaid iddi wneud ar ben ei hun. Mae un o'r dieithriaid wedi bod yn y llys, sy'n honni ei fod yn ffrind Orest. Mae Elektra yn ei gwestiynnu, a phan ddywedai ei henw, mae'r ffrind wedi ei synnu. Nid yw Elektra yn ei adnabod tan i'r gweision taflu eu hunain wrth ei draed: Dyma Orest sy'n sefyll o'i blaen, Orest a wnaeth dwyllo pawb i gredu yn ei darwolaeth ei mwyn iddo gwyllo ei ffordd mewn i'r palas. Mae Elektra wedi'i cyffroi ond hefyd yn digalonni - teimlai anwyldeb cryf dros ei brawd ond tristwch am fywyd meudwy mae wedi dewis am ei hunain. Mae'r ddau yn cael eu torri ar draws gan warcheidwad Orest: mae'r amser am ddial wedi cyrraedd, ac mae angen i Orest wneud beth sydd angen cael ei wneud. Mae Orest yn cyrraedd mynediad y palas. Mae Elektra yn gwrando am unrhyw sŵn. Clywir sgrechian Klytamnestra wrth i Orest ei lladd. Mae panig wrth i'r gweision yn clyed ei sgrechian, ond yn ffoi wrth ddysgu bod Aegisth yn dychwelyd o'r caeau. Wrth i'r haul fachlud, mae'n gweld Elektra, sydd wedi cyffroi, yn cynnig iddo olau i oleuo'r ffordd mewn i'r tŷ. Mae'n darganfod corff Klytamnestra cyn i Orest ei ladd hefyd. Mae Chrysothemis yn dod allan o'r palas and yn dweud i'w chwaer am ddychweliad eu brawd a llofruddiaeth Klytamnestra ac Aegisth. Mae Elektra, yn ecstasi a gwallgofrwydd, yn dweud iddi y gall dim ond distawrwydd a dawns yn gallu dathlu eu rhyddhad. Mae Elektra yn dawnsio ei hunain tan iddi gwympo: ni fyddai byth angen gael ei ddial am ddial ar ei mam. Mae Orest yn gadael y pala, ar ben ei hunain ac mewn distawrwydd.[12] Arddull ac offeryniaethMae Elektra yn defnyddio anghyseinedd, cromatyddiaeth a thonyddiaeth hyblyg sy'n debyg i arddul Strauss yn opera Salome yn 1905, ac mae Elektra yn cynrychioli camau pellaf Strauss yn moderniaeth. Mae'r 'cord Elektra', cord deu-tonyddol yn adnabyddus ac mae cyfochredd harmonig yn dechneg modernaidd sy'n cael ei ddefnyddio.[13] Er mwyn cefnogi cynnwys emosiynol yr opera, mae Strauss yn defnyddio cerddorfa o tua 110 o offerynnwyr - un o'r mwyaf yn hanes opera - gyda'r offeryniaeth dilynol:[14]
Yn ogystal â cherddorfa enfawr a chast mawr o gantorion, defnyddir corws llawn ar ddiwedd yr opera o "Stimmen hinter der Scene" ('lleisiau tu ôl i'r olygfa) gan alw allan mynediad Orest yn y palas yn dilyn llofruddiaeth Aegisth.[15] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia