El Aaiún
Dinas yn nhiriogaeth Gorllewin Sahara a chyn-wladfa Sbaenaidd yw El-Aaiún (troslythrennir hefyd fel "Laâyoune" neu "El Ayun")(Arabeg: العيون, al-`ayūn, sef "Y Ddinas"). Mae'n gorwedd ger arfordir gogledd-orllewin Affrica ar lan Cefnfor Iwerydd, gyferbyn â'r Ynysoedd Dedwydd. Mae ym meddiant Moroco ers 1976, ac yn brifddinas rhanbarth Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra yn y wlad honno. Hawlir meddiant ar y ddinas gan Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi hefyd, fel ei phrifddinas de jure. Mae ganddi boblogaeth o 188,084, yn gymysgedd o Forocwyr o'r gogledd a Sahrawiaid o dde Moroco a brodorion Gorllewin Sahara. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, diolch i fenwfudo o Foroco. Cafwyd peth gwrthdaro ar y strydoedd yn 2005 fel rhan o intifada Gorllewin Sahara. Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia