Eiddew
Cydnebir erbyn hyn ddau fath o eiddew yng Nghymru, Prydain ac Ewrop. Fe'u hymdrinir yma gan amlaf yn gonfensiynol fel Hedera helix agg. oni welir rheswm i'w gwahaniaethu fel Hedera helix a H. hibernica. Planhigyn prennaidd sy'n tyfu'n agos i'r pridd neu'n dringo yw Eiddew neu Iorwg (Lladin: Hedera). Ffordd o fywMae’r Eiddew (Iorwg) yn dringo trwy ddefnyddio gwreiddiau sy’n tyfu o’r coesyn. Dywed Wynne mai ond ychydig o neithdar sydd gan flodau’r eiddew ac fe gaiff y blodau eu peillio gan wybed fwyaf am nad oes arnynt angen llawer iawn o fwyd (er fod paill yn llawer mwy maethlon na neithdar!)[1]. Mae dau fath o ddail gan yr eiddew, y dail lled-grynion sy'n cynnal y blodau a'r ffrwythau, a'r dail â thri phigyn iddynt sydd yn anffrwythlon. TacsonomegBarnwyd tan yn ddiweddar i'r eiddew ymrannu i ddwy is-rywogaeth, ond yn ôl y farn ddiweddaraf, fe'u hymrennir yn ddwy rywogaeth gyflawn Hedera helix is-rh. hibernica, eiddew/iorwg yr Iwerydd, a Hedera helix is-rh. helix, eiddew/iorwg cyffredin. . EcolegMae lle arbennig i’r eiddew H. helix agg. yn ecoleg y goedwig ac yng nghefn gwlad yn gyffredinol. Sail yr arbenigrwydd yma yw ei ffenoleg, ei dymor blodeuo yn yr hydref) a ffrwytho ffrwytho yn y gwanwyn), a’r ffaith ei fod yn fythwyrdd. Ffenoleg Gwyrddni gaeaf Mae’r eiddew yn un o’r ychydig blanhigion prennaidd yng Nghymru sydd yn cadw ei ddail drwy’r flwyddyn. Mae’r Gorfanhadlen Eiddew (Orobanche hederae Ivy Broomrape) barasitig sy’n nodweddiadol o arfordir Cymru a de-orllewin Lloegr, yn sugno maeth o wreiddiau’r eiddew[1]. DosbarthiadY planhigynYr enwauMeddygaethDibynnir yn yr adran hon ar dystiolaeth safonol Ann Elizabeth Williams [2] Y Llygaid a’r Glust: ‘’Dywedodd Mrs Margaret Jennie Thomas, Llwyncynhyrus, Llanymddyfri, mai plastr o ddaul iorwg neu eiddew wedi’u pwnio a roddwyd ar lugaid ei thad i dynnu’r boen pan dasgodd pyg berwedig drosto unwaith wrth iddo farcio defaid’’ ‘’Defnyddid [llysiau pen tai] ar y cyd â dail eiddew yn ôl tystiolaeth o Ferthyr Tydfil: cymysgid sudd y ‘dail gerllysg’, fel y’u gelwid, gyda thrwyth ‘dail iddia’ wedi’i hidlo, ac ychwanegid ychydig o hufen at y cymysgedd cyn rhoi diferyn ohono yn y glust’’ Llên GwerinFel un o'r ychydig blanhigion prenaidd bythwyrdd cynhenid yng Nghymru (y gelynen Ilex aquifolium a'r ferywen Taxus baccata yw'r lleill) mae ei arwyddocad mewn llen gwerin yn deillio yn bennaf o'r ffaith bod ei ddail yn fythwyrdd. EnwauHedera helix is-rh. hibernicaiorwg yr IweryddegAtlantic ivy Hedera helix is-rh. helixiorwgegcommon ivy |
Portal di Ensiklopedia Dunia