Edward James Reed
Roedd Syr Edward James Reed KCB, FRS (20 Medi 1830 – 30 Tachwedd 1906) yn bensaer llynges, yn awdur, perchennog rheilffyrdd a gwleidydd Rhyddfrydol a oedd yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin o 1874 i 1906.[1] Bywyd PersonolGanwyd Edward James Reed yn Sheerness, Swydd Caint yn fab i John Reed, swyddog dociau ag Elizabeth (né Arney) ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Fathemateg ac Adeiledd Llynges, Portsmouth [2]. Priododd Rosetta Barnaby ym 1851. GyrfaYm 1852 dechreuodd ei yrfa ym maes cynllunio morwrol yn nociau Sheerness, ond fe ymddiswyddodd wedi anghydfod gyda'r rheolwr; wedyn fu'n gweithio ym maes newyddiaduraeth gan gynnwys gweithio fel golygydd y Mechanic's Magazine. Ym 1860 cafodd ei benodi yn ysgrifennydd cyntaf The Royal Institute of Naval Architects, sefydliad ar gyfer pobl a oedd yn ymwneud â dylunio, adeiladu, atgyweirio a gweithredu llongau, cychod a strwythurau morol. Ym 1863 cafodd ei benodi yn brif adeiladydd llongau'r llynges, yn ystod ei gyfnod yn y swydd gwelwyd y trawsnewid terfynol o adeiladu llongau ryfel o bren i rai o haearn. Ymysg y llongau rhyfel nodedig a adeiladwyd o dan ei gyfarwyddyd oedd:
Ymddiswyddodd ym 1870 ar ôl i'r llynges comisiynu'r llong HMS Captain heb ymgynghori ag ef na'i adran ond barhaodd i gynllunio llongau ryfel i nifer o wledydd eraill gan gynnwys Brasil, yr Almaen, Chile a Japan.[3] Yn ogystal â'i ddiddordeb masnachol yn y busnes llongau yr oedd hefyd yn un o brif gyfranddalwyr yng nghwmnïau'r rheilffyrdd yn Florida, UDA [4] Gyrfa wleidyddolFe safodd Reed ei etholiad seneddol cyntaf, heb lwyddiant, mewn isetholiad yn Hull ym 1873. Yn etholiad cyffredinol 1874 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistrefi Penfro. Yn yr Etholiad Cyffredinol 1880 safodd yn llwyddiannus yn etholaeth Caerdydd. Ym 1886 fe'i penodwyd yn Arglwydd y Trysorlys (sef un o chwipiaid y llywodraeth) yn nhrydedd weinidogaeth Gladstone. Yn dilyn ei benodiad cyhoeddodd y Western Mail erthygl yn awgrymu bod Reed wedi cael swydd cyflogedig barhaol gan Gladstone fel rhyw fath o lwgrwobr; erlynwyd y papur yn llwyddiannus mewn achos enllib gan Reed[5] Collodd Reed ei sedd seneddol ym 1895, ond fe lwyddodd i'w adennill ym 1900. Ym 1905 cyhoeddodd ei fwriad i ymddeol o'r senedd yn yr etholiad nesaf (a gynhaliwyd ym 1906). AnrhydeddauCafodd Reed ei benodi'n Gydymaith Urdd y Baddon (CB) ym 1868, gan gael ei ddyrchafu'n Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon (KCB) ym 1880. Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (FRS) ym 1876. Derbyniodd hefyd nifer o anrhydeddau gan wledydd eraill megis Rwsia, Awstria Twrci ac eraill MarwolaethBu farw Reed o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Y Strand, Llundain ym mis Tachwedd 1906. Fe'i claddwyd ym Mynwent Putney Vale ar 4 Rhagfyr.[6] Cyhoeddiadau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia