Edward Davies (Iolo Trefaldwyn)
Bardd Cymraeg ac eisteddfodwr oedd Edward Davies (1819 – 4 Ionawr 1887), a fu'n adnabyddus wrth ei enw barddol Iolo Trefaldwyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfyllin ym Maldwyn, Powys.[1] BywgraffiadGaned Iolo ym Moel-y-frochas ger pentref Llanfyllin rywbryd yn y flwyddyn 1819. Roedd ei rieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Rhos-y-brithdir, gyda'r cyntaf yn yr ardal i ymaelodi. Cafodd beth addysg yn ysgol Morris Davies yn Llanfyllin cyn dilyn gyrfa amrywiol fel gwas fferm lleol a gweithio yn chwarel Llangynog a gwaith plwm Rhyd-y-mwyn. Ar ôl cyfnod yn gwerhu glo yn Lerpwl, ymsefydlodd yn Wrecsam a chychwyn busnes yn gwerthu llyfrau i gyhoeddwr o'r Alban. Bu farw ar y 4ydd o Ionawr 1887.[1] Bardd ac eisteddfodwrRoedd yn eisteddfodwr brwd. Yn Eisteddfod y Gordofigion Lerpwl, 1870, bu'n fuddugol gyda'i bryddest 'Goleuni'. Roedd dipyn o alwad amdano i feirniadu, adrodd a chanu penillion mewn eisteddfodau lleol. Roedd yn englynwr medrus ac, fel sy'n wir yn gyffredin am sawl bardd o'r cyfnod, ei brif werth llenyddol heddiw yw fel englynwr a lluniwr beddargraffiadau cofiadwy yn hytrach nag am ei gerddi hir eisteddfodol. Cyhoeddwyd ei unig gyfrol, Caneuon Iolo Trefaldwyn, ychydig cyn ei farw.[1] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia