Durango (Talaith)
Un o 31 talaith ffederal Mecsico yw Durango. Mae ganddi boblogaeth o 1,754,754 (2015)[1]. Mae ganddi'r dwysedd poblogaeth ail isaf yn y wlad (ar ôl Baja California Sur). Dinas Durango yw prifddinas y dalaith. Mae'r rhan fywaf o'r dalaith yn fynyddig iawn gyda llawer o goedwigoedd trwchus. Gorwedd mynyddoedd y Sierra Madre Occidental yng ngorllewin a chanolbarth y dalaith. Ceir llawer o fwynau yn y mynyddoedd hynny, yn cynnwys arian, a dyma un o'r rhesymau pam fod y Sbaenwyr mor awyddus i feddianu'r ardal. Mae'r ardal gwelyau mwyn yn ymestyn i'r gogledd i dalaith Chihuahua ac i'r de i Zacatecas. Ceir basnau anial anferth yn ardal Laguna sy'n cael eu dyfrhau gan Afon Nazas. Mae prif gnydau'r ardal yn cynnwys cotwm, gwenith, ŷd, alfalfa, ffa, sorghum a llydiau eraill. Yn ogystal â ffermio, y prif ddiwydiannau yw coedwigaeth a ransio. ![]() Mae Durango'n enwog am ei sgorpionau. Ymsefydlodd y Sbaenwr Francisco de Ibarra yn Durango, a oedd yn rhan o dalaith anferth Nueva Vizcaya, yn 1563: sefydlodd ddinas Durango a'i henwi ar ôl ei dref enedigol Durango, yng Ngwlad y Basg. Ond gwrthwynebodd y bobloedd brodorol y trefedigaethwyr Sbaenaidd ac o hynny ymlaen maent wedi brywdro i gael elfen o ymreolaeth ar eu materion eu hunain. Yn 1823, yn fuan ar ôl diwedd Rhyfel Annibyniaeth Mecsico, daeth Durango yn dalaith ffederal. Mae enwogion Durango yn cynnwys yr arweinydd chwyldroadol Pancho Villa a'r actores Dolores del Río. Prif ddinasoedd a threfi
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia