Duffy
Cantores soul Gymreig o Nefyn yw Aimee Anne Duffy (yn syml Duffy; ganwyd 23 Mehefin 1984). Daeth yn ail yn y rhaglen Wawffactor ar S4C yn 2003, a chafodd sylw ddiwedd 2007 a 2008 pan gafodd ei galw'n 2il ganwr/gantores gorau Sound of 2008 y BBC. Mae hi wedi perfformio ar raglenni fel Later With Jules Holland, gan dderbyn canmoliaeth uchel iawn ac hyd yn oed wedi ei chymharu â'r gantores Dusty Springfield. Rhyddhaodd ei halbwm Rockferry ym Mawrth 2008 yn y Deyrnas Unedig ac wedyn dros y byd. Yn Chwefror 2008 cyrhaeddodd Rhif 1 yn y siartiau Prydeinig gyda'i sengl Mercy. Roedd yr albwm yn llwyddiant ysgubol, yn cyrraedd rhif 1 dros Ewrop ac Ynysoedd y De. Bu'r albwm yn llwyddiant mawr yng Ngogledd America hefyd, yn cyrraedd rhif 4 yn siart albwmiau yr Unol Daleithiau. Ym mis Ionawr 2009, cyhoeddwyd y byddai Duffy yn hysbysebu Diet Coke wedi iddi arwyddo cytundeb o dros £100,000.[1] Bywyd personolBu Duffy yn caru gyda Mark Durston, a anwyd yn Swydd Gaer[2] am dros bum mlynedd tan fis Tachwedd 2006. Roedd Duffy yn byw yn Abersoch gydag ef.[3] Ym mis Medi 2008, soniodd Duffy ei bod "ar ffin cael chwalfa nerfus" oherwydd y pwysau yr oedd enwogrwydd wedi rhoi arni. Dywedodd ei bod wedi ystyried dod yn feudwy, ond yn y pen draw penderfynodd yn erbyn y syniad er mwyn ei chefnogwyr. Er ei bod yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl yn dda, roedd yn ei chael hi'n "frawychus" pan fydd pobl yn ei hadnabod ar y stryd, ac wedi bod yn ofni bod ei delwedd o bosibl yn newid y person y mae hi go iawn.[4][5] Gyda ffortiwn amcangyfrifedig Duffy o £4 miliwn fe'i gosodwyd hi yn yr 16eg safle yn rhestr y Sunday Times 2009 o gerddorion ifanc cyfoethocaf Prydain Fawr.[6] Bu'n caru gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Mike Phillips, o fis Medi 2009 i fis Mai 2011.[7] Ar 3 Hydref 2012, dihangodd Duffy o dân yn y fflat penthouse ar rent yr oedd hi'n byw ynddo, Abbots House yn Kensington, Llundain.[8] Ar 25 Chwefror 2020, dywedodd ar bost Instagram ei bod wedi cael ei "threisio, rhoi dan gyffur ac wedi ei dal yn wystl dros rai dyddiau" a'i bod wedi diflannu o fywyd cyhoeddus er mwyn iddi adfer o'r profiad, gan ychwanegu ei bod bellach yn gwneud yn dda ond ei bod wedi cymryd ei hamser i wella.[9][10] Yn ei chyfrif, ni roddodd unrhyw arwydd pwy oedd ei hymosodwr na sôn pryd na ble y digwyddodd yr ymosodiad.[11] Albymau
Aelodau'r band
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia