Draenen ddu
Coeden o fath Prunus sy'n tyfun hyd at 5 metr (8 troedfedd) ydy'r Ddraenen ddu (Lladin: Prunus spinosa), ac fe'i ceir yng Nghymru ac ledled Ewrop, Asia a gogledd-orllewin Affrica.[1][2] Fe'i plannwyd yn ddiweddar yng Ngogledd America a Seland Newydd, ble mae hi hefyd yn llewyrchu. Mae eirin bdon bach, eirin tagu, ac eirin y perthi yn enwau eraill ar y goeden ac yn cyfeirio at ei ffrwyth, sy'n cael eu defnyddio i wneud y ddiod gartref traddodiadol hwnnw: jin eirin. Pan geir cyfnod oer yn y Gwanwyn pan fo'r ddraenen ddu'n blodeuo fe’i gelwir yn "Aeaf y Ddraenen Ddu". ![]() Mae'r term gwyddonol (Lladin) spinosa yn cyfeirio at ddrain miniog y planhigyn, sy'n nodweddiadol o'r teulu hwn, fel mae'r enw Saesneg blackthorn, hefyd. ![]() Mae'r dail yn cael eu bwyta gan siani flewog y gwyfynod canlynol (ymhlith eraill): Pavonia pavonia, Scythropia crataegella) a Coleophora anatipennella. Mae'r gwyfyn a elwir yn Esperia oliviella yn bwyta ei phren marw. Y prenMae'r pren yn llosgi'n dda: yn araf gyda chryn wres.[3] Cabolir ei phren gyda chŵyr ac fe'i ddefnyddir i wneud offer i'r saer ac i wneud ffyn cerdded. Yn Iwerddon, defnyddir y pren i wneud shillelagh sef math o erfyn taro.[4] Mae swyddogion byddin Lloegr hefyd yn arfer y traddodiad o gario ffyn o bren y ddraenen ddu. Pennill“Pan fo'r ddraenen ddu yn wyn, Cyfeiriadau
Gweler hefyd]] |
Portal di Ensiklopedia Dunia