Dog Day Afternoon
Ffilm ddrama o 1975 yw Dog Day Afternoon a gyfarwyddwyd gan Sidney Lumet, ysgrifennwyd gan Frank Pierson, a chynhyrchwyd gan Martin Bregman. Mae'r ffilm yn serennu Al Pacino, John Cazale, Charles Durning, Chris Sarandon, Penny Allen, James Broderick, a Carol Kane. Cyfeiria'r teitl at "ddyddiau cŵn yr haf". Ysbrydolwyd y ffilm gan erthygl gan P.F. Kluge o'r enw "The Boys in the Bank",[1] sy'n adrodd stori debyg am ysbeiliad banc yn Brooklyn gan John Wojtowicz a Salvatore Naturile ar 22 Awst 1972. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yng nghylchgrawn Life ym 1972.[2] Pan ryddhawyd ym Medi 1975 gan Warner Bros. Pictures (sydd yn awr yn rhan o Time Warner), derbynodd y ffilm adolygiadau ffafriol ar y cyfan, â nifer ohonynt yn trafod ei naws gwrth-sefydliadol. Enwebwyd Dog Day Afternoon am nifer o Wobrau'r Academi a gwobrau Golden Globe, ac enillodd un Wobr yr Academi. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia