Diwrnod Rhyngwladol y Merched![]() Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Merched neu Ddiwrnod Rhyngwladol y Fenyw yn flynyddol ar yr 8fed o Fawrth.[1] Dethlir mewn gwahanol ffyrdd leled y byd gan gynnwys mynegi: parch, gwerthfawrogiad a chariad yn ogystal â dathlu llwyddiannau'r ferch yn y byd gwleidyddol, gwyddonol, ariannol ayb. Digwyddiad sosialaidd ydoedd yn wreiddiol ac fe'i cyfrifwyd yn ddiwrnod gŵyl mewn rhai gwledydd yn Ewrop a Rwsia, ond dros amser collwyd yr elfen sosialaidd a daeth yn gyfuniad o Ddiwrnod y Mamau a Diwrnod Sant Ffolant. Mewn gwledydd eraill, fodd bynnag, canolbwyntiwyd yn fwy ar hawliau dynol a brwydrau ac ymdrechion y ferch dros y blynyddoedd. Dethlir y diwrnod mewn rhai mannau drwy wisgo rhuban porffor. ![]() Hanes y diwrnodYn Awst 1910 trefnwyd Cynhadledd Merched Rhyngwladol ac a ysbrydolwyd gan y Sosialwyr Americanaidd ac Almaenig Luise Zietz a awgrymodd sefydlu'r diwrnod yn rhyngwladol. Eiliwyd y cynnig gan yr arweinydd comiwnyddol Clara Zetkin. Fodd bynnag, ni phenodwyd dyddiad ar gyfer y gynhadledd.[2][3] Roedd yn y cyfarfod hwn oddeutu cant o ferched o 17 o wahanol wledydd, a chytunent y dylai'r diwrnod hyrwyddo hawliau cyfartal gan gynnwys 'dioddefaint merched' (neu suffarage yn y gwreiddiol).[4] Y flwyddyn wedyn ar 19 Mawrth, dathlwyd y diwrnod gan dros filiwn o bobl o Awstria, Denmarc, yr Almaen a'r Swistir.[5][6] Cafwyd hefyd dros 300 o brotestiadau yn yr Ymerodraeth Awstria-Hwngari.[2] Mynnwyd yr hawl i ferched bleidleisio ac i dal swyddi cyhoeddus. ![]() Yn 1913 dathlodd Rwsiaid benywaidd y diwrnod ar y Sul olaf o Chwefror (yn ôl Calendr Iŵl).[6] Y flwyddyn wedyn, roedd y diwrnod hwn yn digwydd bod ar yr 8fed, a chynhaliwyd y Diwrnod Rhyngwladol y Merched cyntaf ar y dydd hwn ac ers hynny.[6] Yn Llundain ar 8 Mawrth 1914, gorymdeithiwyd o Bow i Sgwâr Trafalgar ac arestiwyd Sylvia Pankhurst o flaen gorsaf Charing Cross.[7] Y Cenhedloedd UnedigYn y gwledydd gorllewinol, ni dderbyniwyd y diwrnod fel gŵyl swyddogol, cenedlaethol tan 1977 pan wahoddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ei haelodau i ddatgan 8 Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Fenyw a Heddwch Rhyngwladol, yn flynyddol.[8] Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia