Diploma'r Fagloriaeth RyngwladolCymhwyster a gaiff ei arholi mewn tair iaith (Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg) ydyw Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (Saesneg: The International Baccalaureate Diploma IB), mae'n gymhwyster mynedfa i Brifysgol a gydnabyddir ar draws y byd. Dysgir yn 2,075 ysgol, llawer ohonynt yn ysgolion rhyngwladol, yn 125 gwlad dros y byd i gyd (yn 2007). Mae dros hanner yr ysgolion lle ddysgir y Diploma wedi eu cyllido gan y wladwriaeth. Mae'r rhaglen yn cael ei lywodraethu gan Drefnidiaeth y Fagloriaeth Ryngwladol (Saesneg: International Baccalaureate Organisation) Mae'r IBO a sefydlodd y Fagloriaeth wedi'i thadogi gyda'r Cenhedloedd Unedig ac yn arwyddwr Rhaglen Heddwch UNESCO ac wedi cytuno i'w gynnwys ymhob agwedd o'i chwricwlwm. CwricwlwmMae'r rhaglen yn cynnwys chwe phwnc yn ogystal â thraethawd estynedig (4000 o eiriau), ToK (Athroniaeth Wybodaeth), ac o leiaf 150 awr o CAS (creadigol, ymarfer corfforol a gwasanaeth). Gwobrwyir 7 marc am bob pwnc, 7 yw'r uchaf ac 1 yw'r isaf, gyda hyd at dri marc ychwanegol ar gyfer ToK a'r traethawd estynedig. Cyfanswm y marciau ar gyfer y Diploma yw 45 marc. Rhaid pasio holl feysydd y rhaglen er mwyn ennill y Diploma. Y chwe maes bynciol yw:
Rhaid astudio tri phwnc i Safon Uwch (safon a ystyrir i fod yn uwch na TAG Safon Uwch) a thri phwnc arall i Safon Sylfaenol (ychydig yn uwch nag Uwch Gyfrannol TAG). Mae'r ymgeiswyr fel arfer yn eistedd tair arholiad yn eu pynciau uwch a dwy arholiad yn eu pynciau sylfaenol. Mae yna elfennau o waith cwrs yn y pynciau i gyd gyda'r arholiadau ysgrifenedig i gyd yn cael eu sefyll ar ddiwedd ail flwyddyn (y flwyddyn olaf) y rhaglen. Ysgolion yng Nghymru
Mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion uchod yn cynnig Cymraeg fel opsiwn hunan-ddysgu ar Safon Sylfaenol. Dolenni Allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia