Dinasoedd dynodedig JapanDinas dynodedig trwy ordinhâd llywodraeth (Japaneg: 政令指定都市, Seirei shitei toshi), neu Dinas Dynodedig (Japaneg: 指定都市, Shitei toshi) neu Dinas Ordinhâd Llywodraeth (Japaneg: 政令市, Seirei shi) yw'r enw a roddir ar ddinas yn Japan sydd â phoblogaeth o dros 500,000 ac sydd wedi ei dynodi gan orchymyn Cabinet Japan o dan Erthygl 252, Adran 19 o dan y Ddeddf Ymreolaeth Lleol. Swyddogaeth a gweinyddiaethDirprwyir nifer o swyddogaethau tebyg i'r rhai a weinyddir gan daleithiau Japan i ddinasoedd dynodedig; mewn meysydd megis addysg, gofal cymdeithasol, glanweithdra, trwyddedu busnesau a chynllunio trefol. Fel arfer, datganolir swyddogaethau llai i lywodraeth y ddinas tra caiff penderfyniadau mwy pwysig eu gwneud gan lywodraeth y dalaith. Er enghraifft, gellir trwyddedu clinigau neu fasnachwyr fferyllol gan lywodraeth y ddinas, ond i gael trwydded ar gyfer fferyllfa neu ysbyty rhaid gwneud cais trwy lywodraeth y dalaith. Rhaid i ddinasoedd dynodedig is-rannu eu hunain i mewn i wardiau (Japaneg: 区, ku), pob un a'i swyddfa weinyddol sy'n edrych ar ôl swyddogaethau megis cofrestru trigolion a chasglu treth. Nid oes un ddinas bellach sydd wedi ei dynodi'n ddinas ddynodedig wedi colli ei statws. Rhestr o ddinasoedd dynodedig Japan
Gofynion
Er mwyn cyflwyno cais swyddogol rhaid cael caniatâd llywodraethau y ddinas a'r dalaith. |
Portal di Ensiklopedia Dunia