Dinas Wakefield
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Dinas Wakefield (Saesneg: City of Wakefield). Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 339 km², gyda 348,312 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Kirklees i'r gorllewin, Dinas Leeds i'r gogledd, Gogledd Swydd Efrog i'r dwyrain, a De Swydd Efrog i'r de. ![]() Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas. Rhennir y fwrdeistref yn 30 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys dinas Wakefield ei hun, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Castleford, Featherstone, Hemsworth, Knottingley, Normanton, Ossett, Pontefract a South Elmsall. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia