Dinas Panamâ
Prif ddinas Panamâ yw Dinas Panamâ (Sbaeneg: Panamá). Mae hi ar arfordir y Cefnfor Tawel ac ar Gamlas Panamâ. Mae tua 708,738 o bobl yn byw yno. Dinas Panamâ ydy canolbwynt gwleidyddiaethol, gweinyddol a diwylliannol y wlad. HanesSefydlwyd y ddinas hon gan Pedro Arias de Ávila (Pedrarias Davila) ar 15 Awst 1519. Ers y cyfnod hynny, mae masnach ar draws y culdir wedi bod yn bwysig iawn i'r ddinas. O'r fan yma roedd yr alldaith a choncwest Periw wedi dechrau ac roedd yr aur a'r arian yn cael eu danfon i Sbaen trwy'r dref. Ym 1671 roedd Henry Morgan a 1400 o ddynion eraill wedi ymosod ar y dref ac fe'i llosgwyd o ganlyniad. Mae olion y dref i'w gweld hyd yn oed heddiw ond adeiladwyd y dref newydd rhyw 5 milltir i'r gorllewin ym 1673. Enw olion y dref cyntaf yw Panamá la Vieja ac mae llawer o dwristiaid yn ymweld â'r fan. Pan ddarganfuwyd aur yn Nghaliffornia ym 1848, cynyddodd y nifer o deithwyr a oedd yn mynd trwy Banamâ i'r gogledd. Y flwyddyn cyn hynny, sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Panamâ, ond nid oedd trenau yn rhedeg cyn 1855. Fodd bynnag, adeiladwyd y rheilffordd gyntaf o'r arfordir gorllewinol i arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau ym 1869, ac felly roedd tua 375,000 o bobl yn teithio trwy Banamâ i'r arfordir gorllewinol a thua 225,000 o bobl i'r arfordir dwyreiniol. Wrth gwrs, roedd hynny'n golygu y datblygodd Panamâ yn ddinas gyfoethog iawn ar y pryd. Roedd Camlas Panamâ yn golygu ffyniant o'r newydd i'r ddinas. Yn bennaf, roedd iechyd y boblogaeth yn gwella o ganlyniad i waith yr Americanwyr yng Nghylchfa'r Camlas. Roedd llai o glefyd melyn a malaria ac roedd y gwasanaeth dŵr yn well. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd canolfannau milwrol gan yr UDA ar hyd y camlas. O ganlyniad roedd llawer o bobl milwrol a sifil yn dod i'r ddinas ac yn gwario eu harian yno, ond ar y llaw arall nid oedd pawb yn hapus i weld byddin gwlad dramor yn eu gwlad ac roedd llawer o'r canolfannau milwrol ar lannau'r gamlas - ac felly roedd hi'n amhosib i'r trigolion gyrchu yno cyn y 1960au. Rhwng y 1970au a'r 1980au daeth Panamâ i fod yn ganolfan i fanciau rhyngwladol, ond gwelwyd roedd problemau gyda "golchi arian" hefyd. Ar ôl bron i flwyddyn o densiwn rhwng UDA a Phanamâ, gorchmynodd Arlywydd Bush oresgyniad Panamâ a chwymp General Manuel Noriega. O ganlyniad, llosgwyd un ardal o'r ddinas o'r enw El Chorillo, ond cafodd ei ail-adeiladu gan arian o'r UDA yn hwyrach. Heddiw, mae'r ddinas yn dal i fod yn ganolfan bancio rhyngwladol. Mae porthladd yn Balboa, y dref gyfagos. Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
|
Portal di Ensiklopedia Dunia