Dinas Manceinion
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Dinas Manceinion (Saesneg: City of Manchester). Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 116 km², gyda 552,858 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Trafford a Dinas Salford i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Bury a Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale i'r gogledd, Bwrdeistref Fetropolitan Oldham, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside a Bwrdeistref Fetropolitan Stockport i'r dwyrain, a Swydd Gaer i'r de. ![]() Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas. Mae'r fwrdeistref yn ddi-blwyf am y rhan fwyaf, gydag un plwyf sifil (Ringway) i'r de. I bob pwrpas mae gan y fwrdeistref yr un ffiniau â dinas Manceinion. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia