Dinas Efrog
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Dinas Efrog (Saesneg: City of York). Mae'r awdurdod unedol yn cynnwys dinas gadeiriol Efrog a phentrefi cyfagos. Mae gan yr awdurdod unedol arwynebedd o 272 km², gyda 210,618 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Ardaloedd Hambleton a Ryedale i'r gogledd, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r dwyrain, Ardal Selby i'r de, a Bwrdeistref Harrogate i'r gorllewin. ![]() Ffurfiwyd yr awdurdod unedol ar 1 Ebrill 1996. Roedd yn gyfuniad o ddinas Efrog, a oedd yn ardal an-fetropolitan yn sir Gogledd Swydd Efrog, yn ogystal â phlwyfi o Fwrdeistref Harrogate ac Ardaloedd Ryedale a Selby. Ar y dyddiad hwnnw peidiodd dinas Efrog â bod yn rhan o sir an-fetropolitan Gogledd Swydd Efrog.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia